Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Josua 23  Beibl William Morgan

23 A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau. 2 A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus: 3 Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch. 4 Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin. 5 A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych. 6 Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy; 7 Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt: 8 Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn. 9 Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn. 10 Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych. 11 Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw. 12 Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau: 13 Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 14 Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt. 15 Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi. 16 Pan droseddoch gyfamod yr Arglwydd eich Duw, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

Next
Josua 22
Josua 24
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences