Add parallel Print Page Options

Canys wele, yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, pan ddychwelwyf gaethiwed Jwda a Jerwsalem, Casglaf hefyd yr holl genhedloedd, a dygaf hwynt i waered i ddyffryn Jehosaffat; a dadleuaf â hwynt yno dros fy mhobl, a’m hetifeddiaeth Israel, y rhai a wasgarasant hwy ymysg y cenhedloedd, a rhanasant fy nhir. Ac ar fy mhobl y bwriasant goelbrennau, a rhoddasant y bachgen er putain, a gwerthasant fachgennes er gwin, fel yr yfent. Tyrus hefyd a Sidon, a holl ardaloedd Palesteina, beth sydd i chwi a wneloch â mi? a delwch i mi y pwyth? ac os telwch i mi, buan iawn y dychwelaf eich tâl ar eich pen eich hunain; Am i chwi gymryd fy arian a’m haur, a dwyn i’ch temlau fy nhlysau dymunol. Gwerthasoch hefyd feibion Jwda a meibion Jerwsalem i’r Groegiaid, i’w pellhau oddi wrth eu hardaloedd. Wele, mi a’u codaf hwynt o’r lle y gwerthasoch hwynt iddo, ac a ddatroaf eich tâl ar eich pen eich hunain. A minnau a werthaf eich meibion a’ch merched i law meibion Jwda, a hwythau a’u gwerthant i’r Sabeaid, i genedl o bell; canys yr Arglwydd a lefarodd hyn.

Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd, gosodwch ryfel, deffrowch y gwŷr cryfion, nesaed y gwŷr o ryfel, deuant i fyny. 10 Gyrrwch eich sychau yn gleddyfau, a’ch pladuriau yn waywffyn: dyweded y llesg, Cryf ydwyf. 11 Ymgesglwch, a deuwch, y cenhedloedd o amgylch ogylch, ac ymgynullwch: yno disgyn, O Arglwydd, dy gedyrn. 12 Deffroed y cenhedloedd, a deuant i fyny i ddyffryn Jehosaffat: oherwydd yno yr eisteddaf i farnu yr holl genhedloedd o amgylch. 13 Rhowch i mewn y cryman; canys aeddfedodd y cynhaeaf: deuwch, ewch i waered; oherwydd y gwryf a lanwodd, a’r gwasg-gafnau a aethant trosodd, am amlhau eu drygioni hwynt. 14 Torfeydd, torfeydd a fydd yng nglyn terfyniad: canys agos yw dydd yr Arglwydd yng nglyn terfyniad. 15 Yr haul a’r lloer a dywyllant, a’r sêr a ataliant eu llewyrch. 16 A’r Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; y nefoedd hefyd a’r ddaear a grynant: ond yr Arglwydd fydd gobaith ei bobl, a chadernid meibion Israel. 17 Felly y cewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd: yna y bydd Jerwsalem yn sanctaidd, ac nid â dieithriaid trwyddi mwyach.

18 A’r dydd hwnnw y bydd i’r mynyddoedd ddefnynnu melyswin, a’r bryniau a lifeiriant o laeth, a holl ffrydiau Jwda a redant gan ddwfr, a ffynnon a ddaw allan o dŷ yr Arglwydd, ac a ddyfrha ddyffryn Sittim. 19 Yr Aifft a fydd anghyfannedd, ac Edom fydd anialwch anghyfanheddol, am y traha yn erbyn meibion Jwda, am iddynt dywallt gwaed gwirion yn eu tir hwynt. 20 Eto Jwda a drig byth, a Jerwsalem o genhedlaeth i genhedlaeth. 21 Canys glanhaf waed y rhai nis glanheais: canys yr Arglwydd sydd yn trigo yn Seion.