Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 9  Beibl William Morgan

9 Yna Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? 3 Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil. 4 Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd? 5 Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint. 6 Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. 7 Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. 8 Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. 9 Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. 10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif. 11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef. 12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur? 13 Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder. 14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef? 15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr. 16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd. 17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos. 18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder. 19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi? 20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn. 21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes. 22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol. 23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed. 24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe? 25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni. 26 Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth. 27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf: 28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion. 29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer? 30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân; 31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant. 32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn. 33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau. 34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi: 35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

Next
Job 8
Job 10
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences