Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 7  Beibl William Morgan

7 Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? 2 Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: 3 Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. 4 Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. 5 Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. 6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. 7 Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. 8 Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. 9 Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

Next
Job 6
Job 8
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences