Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 41  Beibl William Morgan

41 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? 2 A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? 3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? 4 A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? 5 A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? 6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? 7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? 8 Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. 9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw. 12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef. 13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.

Next
Job 40
Job 42
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences