Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 40  Beibl William Morgan

40 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, 2 Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

3 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 4 Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. 5 Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

6 A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. 8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? 9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.

15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Next
Job 39
Job 41
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences