Add parallel Print Page Options

Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, Pe profem ni air wrthyt, a fyddai blin gennyt ti? ond pwy a all atal ei ymadroddion? Wele, ti a ddysgaist lawer, ac a gryfheaist ddwylo wedi llaesu. Dy ymadroddion a godasant i fyny yr hwn oedd yn syrthio; a thi a nerthaist y gliniau oedd yn camu. Ond yn awr, daeth arnat tithau, ac y mae yn flin gennyt; cyffyrddodd â thi, a chyffroaist. Onid dyma dy ofn di, dy hyder, perffeithrwydd dy ffyrdd, a’th obaith? Cofia, atolwg, pwy, ac efe yn ddiniwed, a gollwyd? a pha le y torrwyd y rhai uniawn ymaith? Hyd y gwelais i, y rhai a arddant anwiredd, ac a heuant ddrygioni, a’u medant. Gan anadl Duw y difethir hwynt, a chan chwythad ei ffroenau ef y darfyddant. 10 Rhuad y llew, a llais y llew creulon, a dannedd cenawon y llewod, a dorrwyd. 11 Yr hen lew a fethodd o eisiau ysglyfaeth; a chenawon y llew mawr a wasgarwyd. 12 Ac ataf fi y dygwyd gair yn ddirgel: a’m clust a dderbyniodd ychydig ohono. 13 Ymhlith meddyliau yn dyfod o weledigaethau y nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, 14 Ofn a ddaeth arnaf, a dychryn, ac a wnaeth i’m holl esgyrn grynu. 15 Yna ysbryd a aeth heibio o flaen fy wyneb; ac a wnaeth i flew fy nghnawd sefyll. 16 Efe a safodd, ac nid adwaenwn ei agwedd ef: drychiolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd, 17 A fydd dyn marwol yn gyfiawnach na Duw? a fydd gŵr yn burach na’i wneuthurwr? 18 Wele, yn ei wasanaethwyr ni roddes ymddiried; ac yn erbyn ei angylion y gosododd ynfydrwydd: 19 Pa faint llai ar y rhai sydd yn trigo mewn tai o glai, y rhai sydd â’u sail mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn? 20 O’r bore hyd hwyr y malurir hwynt; difethir hwynt yn dragywydd heb neb yn ystyried. 21 Onid aeth y rhagoriaeth oedd ynddynt ymaith? hwy a fyddant feirw, ac nid mewn doethineb.