Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Back to Classic
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Back to Classic
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 38  Beibl William Morgan

38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 2 Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. 3 Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. 4 Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. 5 Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? 6 Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, 7 Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw? 8 A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? 9 Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, 10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, 11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. 12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, 13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? 14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. 15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. 16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? 17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? 18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. 19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, 20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? 21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? 22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, 23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? 24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? 25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, 26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? 27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? 28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? 29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? 30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. 31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? 32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? 33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? 34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? 39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, 40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? 41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.

Next
Job 37
Job 39
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences