Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 37  Beibl William Morgan

37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. 2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. 3 Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. 4 Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. 5 Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. 6 Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. 7 Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. 8 Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. 9 O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.

Next
Job 36
Job 38
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences