Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 36  Beibl William Morgan

36 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, 2 Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. 3 O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. 4 Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. 5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. 6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. 7 Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. 8 Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; 9 Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd? 24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25 Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.

Next
Job 35
Job 37
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences