Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 34  Beibl William Morgan

34 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, 2 Ha wŷr doethion, gwrandewch fy ymadroddion; a chwychwi y rhai ydych yn gwybod, clustymwrandewch. 3 Canys y glust a farn ymadroddion, fel yr archwaetha y genau fwyd. 4 Dewiswn i ni farn, gwybyddwn rhyngom pa beth sydd dda. 5 Canys dywedodd Job, Cyfiawn ydwyf: a Duw a ddug ymaith fy marn. 6 A ddywedaf fi gelwydd yn erbyn fy mater fy hun? anaele yw fy archoll heb gamwedd. 7 Pa ŵr sydd fel Job, yr hwn a yf watwargerdd fel dwfr? 8 Ac a rodio yng nghymdeithas gyda gweithredwyr anwiredd, ac sydd yn myned gyda dynion annuwiol. 9 Canys dywedodd, Ni fuddia i ŵr ymhyfrydu â Duw. 10 Am hynny chwychwi wŷr calonnog, gwrandewch arnaf. Pell oddi wrth Dduw fyddo gwneuthur annuwioldeb, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu anwiredd. 11 Canys efe a dâl i ddyn ei waith; ac efe a wna i ŵr gael yn ôl ei ffyrdd ei hun. 12 Diau hefyd na wna Duw yn annuwiol; ac na ŵyra yr Hollalluog farn. 13 Pwy a roddes iddo ef lywodraethu y ddaear? a phwy a osododd yr holl fyd? 14 Os gesyd ei galon ar ddyn, os casgl efe ato ei hun ei ysbryd a’i anadl ef; 15 Pob cnawd a gyd‐drenga, a dyn a ddychwel i’r pridd. 16 Ac od oes ddeall ynot, gwrando hyn: clustymwrando â llef fy ymadroddion. 17 A gaiff yr hwn sydd yn casáu barn, lywodraethu? ac a ferni di yr hwn sydd gyfiawn odiaeth, yn annuwiol? 18 A ddywedir wrth frenin, Drygionus ydwyt? ac, Annuwiol ydych, wrth dywysogion? 19 Pa faint llai wrth yr hwn ni dderbyn wynebau tywysogion, ac nid edwyn y goludog o flaen y tlawd? canys gwaith ei ddwylo ef ydynt oll. 20 Hwy a fyddant feirw mewn moment, a hanner nos y cynhyrfa y bobl, ac yr ânt ymaith: a’r cadarn a symudir heb waith llaw. 21 Canys ei lygaid ef sydd ar ffyrdd dyn ac efe a wêl ei holl gamre ef. 22 Nid oes dywyllwch, na chysgod angau, lle y gall y rhai sydd yn gweithio anwiredd, ymguddio. 23 Canys ni esyd Duw ar ddyn ychwaneg nag a haeddo; fel y gallo efe fyned i gyfraith â Duw. 24 Efe a ddryllia rai cedyrn yn aneirif, ac a esyd eraill yn eu lle hwynt. 25 Am hynny efe a edwyn eu gweithredoedd hwy: a phan newidio efe y nos, hwy a ddryllir. 26 Efe a’u tery hwynt, megis rhai annuwiol, yn amlwg: 27 Am iddynt gilio oddi ar ei ôl ef, ac nad ystyrient ddim o’i ffyrdd ef: 28 Gan ddwyn gwaedd y tlawd ato ef, ac efe a wrendy waedd y cystuddiol. 29 Pan esmwythao efe, pwy a anesmwytha? a phan guddio efe ei wyneb, pwy a edrych arno? pa un bynnag ai yn erbyn cenedl, ai yn erbyn dyn yn unig: 30 Fel na theyrnasai dyn ffuantus, ac na rwyder y bobl. 31 Ond wrth Dduw, yr hwn a ddywed, Mi a faddeuais, nid anrheithiaf, y dylid dywedyd; 32 Heblaw a welaf, dysg di fi: o gwneuthum anwiredd, ni wnaf fi mwy. 33 Ai wrth dy feddwl di y byddai? efe a’i tâl, pa un bynnag a wnelych ai gwrthod, ai dewis; ac nid myfi: am hynny dywed yr hyn a wyddost. 34 Gwŷr call, dywedant i mi; a’r gŵr doeth, clywed fi. 35 Job a ddywedodd yn annoeth; a’i eiriau ydynt heb ddoethineb. 36 Fy Nhad, profer Job hyd y diwedd, am roddi atebion dros ddynion anwir. 37 Canys efe a chwanegodd ysgelerder at ei bechod; efe a gurodd ei ddwylo yn ein plith ni, ac a amlhaodd ei eiriau yn erbyn Duw.

Next
Job 33
Job 35
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences