Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 33  Beibl William Morgan

33 Oherwydd paham, Job, clyw, atolwg, fy ymadroddion; a gwrando fy holl eiriau. 2 Wele, yr ydwyf yn awr yn agoryd fy ngenau; mae fy nhafod yn dywedyd yn nhaflod fy ngenau. 3 O uniondeb fy nghalon y bydd fy ngeiriau; a’m gwefusau a adroddant wybodaeth bur. 4 Ysbryd Duw a’m gwnaeth i; ac anadl yr Hollalluog a’m bywiocaodd i. 5 Os gelli, ateb fi: ymbaratoa, a saf o’m blaen i. 6 Wele fi, yn ôl dy ddymuniad di, yn lle Duw: allan o’r clai y torrwyd finnau. 7 Wele, ni’th ddychryna fy arswyd i, ac ni bydd fy llaw yn drom arnat. 8 Dywedaist yn ddiau lle y clywais i, a myfi a glywais lais dy ymadroddion: 9 Pur ydwyf fi heb gamwedd: glân ydwyf, ac heb anwiredd ynof. 10 Wele, efe a gafodd achosion yn fy erbyn: y mae efe yn fy nghyfrif yn elyn iddo. 11 Y mae yn gosod fy nhraed yn y cyffion; y mae yn gwylied fy holl lwybrau. 12 Wele, yn hyn nid ydwyt gyfiawn. Mi a’th atebaf, mai mwy ydyw Duw na dyn. 13 Paham yr ymrysoni yn ei erbyn ef? oherwydd nid ydyw efe yn rhoi cyfrif am ddim o’i weithredoedd. 14 Canys y mae Duw yn llefaru unwaith, ie, ddwywaith; ond ni ddeall dyn. 15 Trwy hun, a thrwy weledigaeth nos, pan syrthio trymgwsg ar ddynion, wrth hepian ar wely; 16 Yna yr egyr efe glustiau dynion, ac y selia efe addysg iddynt: 17 I dynnu dyn oddi wrth ei waith, ac i guddio balchder oddi wrth ddyn. 18 Y mae efe yn cadw ei enaid ef rhag y pwll; a’i hoedl ef rhag ei cholli trwy y cleddyf. 19 Ac efe a geryddir trwy ofid ar ei wely; a lliaws ei esgyrn ef â gofid caled: 20 Fel y ffieiddio ei fywyd ef fara, a’i enaid fwyd blasus. 21 Derfydd ei gnawd ef allan o olwg: saif ei esgyrn allan, y rhai ni welid o’r blaen. 22 Nesáu y mae ei enaid i’r bedd, a’i fywyd i’r dinistrwyr. 23 Os bydd gydag ef gennad o ladmerydd, un o fil, i ddangos i ddyn ei uniondeb: 24 Yna efe a drugarha wrtho, ac a ddywed, Gollwng ef, rhag disgyn ohono i’r clawdd: myfi a gefais iawn. 25 Ireiddiach fydd ei gnawd na bachgen: efe a ddychwel at ddyddiau ei ieuenctid. 26 Efe a weddïa ar Dduw, ac yntau a fydd bodlon iddo; ac efe a edrych yn ei wyneb ef mewn gorfoledd: canys efe a dâl i ddyn ei gyfiawnder. 27 Efe a edrych ar ddynion, ac os dywed neb, Mi a bechais, ac a ŵyrais uniondeb, ac ni lwyddodd i mi; 28 Efe a wared ei enaid ef rhag myned i’r clawdd, a’i fywyd a wêl oleuni. 29 Wele, hyn oll a wna Duw ddwywaith neu dair â dyn, 30 I ddwyn ei enaid ef o’r pwll, i’w oleuo â goleuni y rhai byw. 31 Gwrando, Job, clyw fi: taw, a mi a lefaraf. 32 Od oes geiriau gennyt, ateb fi: llefara, canys chwenychwn dy gyfiawnhau di. 33 Onid e, gwrando arnaf fi: bydd ddistaw, a myfi a ddysgaf i ti ddoethineb.

Next
Job 32
Job 34
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences