Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 31  Beibl William Morgan

31 Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn? 2 Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder? 3 Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd? 4 Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre? 5 Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo; 6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd. 7 Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo: 8 Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i. 9 Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog; 10 Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi. 11 Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr. 12 Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth. 13 Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi; 14 Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo? 15 Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru? 16 Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio; 17 Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono; 18 (Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;) 19 Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog heb wisg: 20 Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i; 21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth: 22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal. 23 Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef. 24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt; 25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer; 26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair; 27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw: 28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod. 29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo: 30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.) 31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni. 32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion. 33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes; 34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws? 35 O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr. 36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi. 37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato. 38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo; 39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef: 40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.

Next
Job 30
Job 32
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences