Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 3  Beibl William Morgan

3 Wedi hyn Job a agorodd ei enau, ac a felltithiodd ei ddydd. 2 A Job a lefarodd, ac a ddywedodd, 3 Darfydded am y dydd y’m ganwyd ynddo, a’r nos y dywedwyd, Enillwyd gwryw. 4 Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch, a Duw oddi uchod heb ei ystyried; ac na thywynned llewyrch arno. 5 Tywyllwch a chysgod marwolaeth a’i halogo, ac arhosed cwmwl arno; dued y diwrnod a’i dychryno. 6 Y nos honno, tywyllwch a’i cymero; na chydier hi â dyddiau y flwyddyn, ac na ddeued i rifedi y misoedd. 7 Bydded y noswaith honno yn unig, ac na fydded gorfoledd ynddi. 8 A’r rhai a felltithiant y dydd, ac sydd barod i gyffroi eu galar, a’i melltithio hi. 9 A bydded sêr ei chyfddydd hi yn dywyll: disgwylied am oleuni ac na fydded iddi; ac na chaffed weled y wawrddydd: 10 Am na chaeodd ddrysau croth fy mam, ac na chuddiodd ofid oddi wrth fy llygaid. 11 Paham na bûm farw o’r bru? na threngais pan ddeuthum allan o’r groth? 12 Paham y derbyniodd gliniau fyfi? a phaham y cefais fronnau i sugno? 13 Oherwydd yn awr mi a gawswn orwedd, a gorffwys, a huno: yna y buasai llonyddwch i mi. 14 Gyda brenhinoedd a chynghorwyr y ddaear, y rhai a adeiladasant iddynt eu hunain fannau anghyfannedd; 15 Neu gyda thywysogion ag aur ganddynt, y rhai a lanwasant eu tai ag arian; 16 Neu fel erthyl cuddiedig, ni buaswn ddim; megis plant bychain heb weled goleuni. 17 Yno yr annuwiolion a beidiant â’u cyffro; ac yno y gorffwys y rhai lluddedig. 18 Y rhai a garcharwyd a gânt yno lonydd ynghyd; ni chlywant lais y gorthrymydd. 19 Bychan a mawr sydd yno; a’r gwas a ryddhawyd oddi wrth ei feistr. 20 Paham y rhoddir goleuni i’r hwn sydd mewn llafur, a bywyd i’r gofidus ei enaid? 21 Y rhai sydd yn disgwyl am farwolaeth, ac heb ei chael; ac yn cloddio amdani yn fwy nag am drysorau cuddiedig? 22 Y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ac a orfoleddant, pan gaffont y bedd? 23 Paham y rhoddir goleuni i’r dyn y mae ei ffordd yn guddiedig, ac y caeodd Duw arno? 24 Oblegid o flaen fy mwyd y daw fy uchenaid; a’m rhuadau a dywelltir megis dyfroedd. 25 Canys yr hyn a fawr ofnais a ddaeth arnaf, a’r hyn a arswydais a ddigwyddodd i mi. 26 Ni chefais na llonydd nac esmwythdra, ac ni orffwysais: er hynny daeth cynnwrf.

Next
Job 2
Job 4
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences