Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 29  Beibl William Morgan

29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, 2 O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; 3 Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; 4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; 5 Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; 6 Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! 7 Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, 8 Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. 9 Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw. 21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law. 24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.

Next
Job 28
Job 30
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences