Add parallel Print Page Options

23 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid. O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau. Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf. A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof. Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr. Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef: Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled: 10 Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur. 11 Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais. 12 Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol. 13 Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna. 14 Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau. 15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef. 16 Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd: 17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.