Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 19  Beibl William Morgan

19 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pa hyd y cystuddiwch fy enaid? ac y’m drylliwch â geiriau? 3 Dengwaith bellach y’m gwaradwyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn. 4 Hefyd pe byddai wir wneuthur ohonof fi yn amryfus; gyda mi y trig fy amryfusedd. 5 Yn wir os ymfawrygwch yn fy erbyn, a dadlau fy ngwaradwydd i’m herbyn: 6 Gwybyddwch yn awr mai Duw a’m dymchwelodd i, ac a’m hamgylchodd â’i rwyd. 7 Wele, llefaf rhag trawster, ond ni’m hatebir: gwaeddaf, ond nid oes farn. 8 Efe a gaeodd fy ffordd, fel nad elwyf drosodd: y mae efe yn gosod tywyllwch ar fy llwybrau. 9 Efe a ddiosgodd fy ngogoniant oddi amdanaf; ac a ddygodd ymaith goron fy mhen. 10 Y mae efe yn fy nistrywio oddi amgylch, ac yr ydwyf yn myned ymaith: ac efe a symudodd fy ngobaith fel pren. 11 Gwnaeth hefyd i’w ddigofaint gynnau yn fy erbyn; ac a’m cyfrifodd iddo fel un o’i elynion. 12 Ei dorfoedd sydd yn dyfod ynghyd, ac yn palmantu eu ffyrdd yn fy erbyn, ac yn gwersyllu o amgylch fy mhabell. 13 Efe a bellhaodd fy mrodyr oddi wrthyf, a’r rhai oedd yn fy adnabod hefyd a ymddieithrasant oddi wrthyf. 14 Fy nghyfnesaf a ballasant, a’r rhai oedd o’m cydnabod a’m hanghofiasant. 15 Y rhai oedd yn trigo yn fy nhŷ, a’m morynion, sydd yn fy nghyfrif yn ddieithr: alltud ydwyf yn eu golwg. 16 Gelwais ar fy ngwasanaethwr, ac nid atebodd; ymbiliais ag ef â’m genau. 17 Dieithr oedd fy anadl i’m gwraig, er ymbil ohonof â hi er mwyn fy mhlant o’m corff. 18 Plant hefyd a’m diystyrent: cyfodais, a dywedasant i’m herbyn. 19 Fy holl gyfrinachwyr sydd yn fy ffieiddio: a’r rhai a gerais a droesant yn fy erbyn. 20 Fy esgyrn a lynodd wrth fy nghroen, ac wrth fy nghnawd; ac â chroen fy nannedd y dihengais. 21 Trugarhewch wrthyf, trugarhewch wrthyf, fy nghyfeillion; canys llaw Duw a gyffyrddodd â mi. 22 Paham yr ydych chwi yn fy erlid i fel Duw, heb gael digon ar fy nghnawd? 23 O nad ysgrifennid fy ngeiriau yn awr! O nad argreffid hwynt mewn llyfr! 24 O nad ysgrifennid hwynt yn y graig dros byth â phin o haearn ac â phlwm! 25 Canys myfi a wn fod fy Mhrynwr yn fyw, ac y saif yn y diwedd ar y ddaear. 26 Ac er ar ôl fy nghroen i bryfed ddifetha’r corff hwn, eto caf weled Duw yn fy nghnawd: 27 Yr hwn a gaf fi i mi fy hun ei weled, a’m llygaid a’i gwelant, ac nid arall; er i’m harennau ddarfod ynof. 28 Eithr chwi a ddylech ddywedyd, Paham yr erlidiwn ef? canys gwreiddyn y mater a gaed ynof. 29 Ofnwch amdanoch rhag y cleddyf: canys y mae digofaint yn dwyn cosbedigaethau y cleddyf, fel y gwybyddoch fod barn.

Next
Job 18
Job 20
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences