Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 15  Beibl William Morgan

15 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, 2 A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt? 3 A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt? 4 Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw. 5 Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys. 6 Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn. 7 A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau? 8 A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun? 9 Beth a wyddost ti a’r nas gwyddom ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau? 10 Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di. 11 Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw? a oes dim dirgel gyda thi? 12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid, 13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw, a gollwng y fath eiriau allan o’th enau? 14 Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn? 15 Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef. 16 Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr? 17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a’r hyn a welais a fynegaf. 18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant: 19 I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy. 20 Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws. 21 Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno. 22 Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno. 23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. 24 Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel. 25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd. 26 Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau: 27 Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau. 28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau. 29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear. 30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef. 31 Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef. 32 Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa. 33 Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden. 34 Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr. 35 Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.

Next
Job 14
Job 16
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences