Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 13  Beibl William Morgan

13 Wele, fy llygad a welodd hyn oll; fy nghlust a’i clywodd ac a’i deallodd. 2 Mi a wn yn gystal â chwithau: nid ydwyf waeth na chwithau. 3 Yn wir myfi a lefaraf wrth yr Hollalluog, ac yr ydwyf yn chwenychu ymresymu â Duw. 4 Ond rhai yn asio celwydd ydych chwi: meddygon diddim ydych chwi oll. 5 O gan dewi na thawech! a hynny a fyddai i chwi yn ddoethineb. 6 Clywch, atolwg, fy rheswm, a gwrandewch ar ddadl fy ngwefusau. 7 A ddywedwch chwi anwiredd dros Dduw? ac a ddywedwch chwi dwyll er ei fwyn ef? 8 A dderbyniwch chwi ei wyneb ef? a ymrysonwch chwi dros Dduw? 9 Ai da fydd hyn pan chwilio efe chwi? a dwyllwch chwi ef fel twyllo dyn? 10 Gan geryddu efe a’ch cerydda chwi, os derbyniwch wyneb yn ddirgel. 11 Oni ddychryna ei ardderchowgrwydd ef chwi? ac oni syrth ei arswyd ef arnoch? 12 Cyffelyb i ludw ydyw eich coffadwriaeth chwi; a’ch cyrff i gyrff o glai. 13 Tewch, gadewch lonydd, fel y llefarwyf finnau; a deued arnaf yr hyn a ddelo. 14 Paham y cymeraf fy nghnawd â’m dannedd? ac y gosodaf fy einioes yn fy llaw? 15 Pe lladdai efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo ef: er hynny fy ffyrdd a ddiffynnaf ger ei fron ef. 16 Hefyd efe fydd iachawdwriaeth i mi: canys ni ddaw rhagrithiwr yn ei ŵydd ef. 17 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd, ac a fynegwyf, â’ch clustiau. 18 Wele yn awr, trefnais fy achos; gwn y’m cyfiawnheir. 19 Pwy ydyw yr hwn a ymddadlau â mi? canys yn awr os tawaf, mi a drengaf. 20 Ond dau beth na wna i mi: yna nid ymguddiaf rhagot. 21 Pellha dy law oddi arnaf: ac na ddychryned dy ddychryn fi. 22 Yna galw, a myfi a atebaf: neu myfi a lefaraf, ac ateb di fi. 23 Pa faint o gamweddau ac o bechodau sydd ynof? pâr i mi wybod fy nghamwedd a’m pechod. 24 Paham y cuddi dy wyneb, ac y cymeri fi yn elyn i ti? 25 A ddrylli di ddeilen ysgydwedig? a ymlidi di soflyn sych? 26 Canys yr wyt ti yn ysgrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn; ac yn gwneuthur i mi feddiannu camweddau fy ieuenctid. 27 Ac yr ydwyt ti yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylied ar fy holl lwybrau; ac yn nodi gwadnau fy nhraed. 28 Ac efe, megis pydrni, a heneiddia, fel dilledyn yr hwn a ysa gwyfyn.

Next
Job 12
Job 14
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences