Add parallel Print Page Options

12 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Diau mai chwychwi sydd bobl; a chyda chwi y bydd marw doethineb. Eithr y mae gennyf fi ddeall fel chwithau, nid ydwyf fi waeth na chwithau; a phwy ni ŵyr y fath bethau â hyn? Yr ydwyf fel un a watwerid gan ei gymydog, yr hwn a eilw ar Dduw, ac efe a’i hetyb: gwatwargerdd yw y cyfiawn perffaith. Lamp ddiystyr ym meddwl y llwyddiannus, yw yr hwn sydd barod i lithro â’i draed. Llwyddiannus yw lluestai ysbeilwyr, ac y mae diogelwch i’r rhai sydd yn cyffroi Duw, y rhai y cyfoethoga Duw eu dwylo. Ond gofyn yn awr i’r anifeiliaid, a hwy a’th ddysgant; ac i ehediaid yr awyr, a hwy a fynegant i ti. Neu dywed wrth y ddaear, a hi a’th ddysg; a physgod y môr a hysbysant i ti. Pwy ni ŵyr yn y rhai hyn oll, mai llaw yr Arglwydd a wnaeth hyn? 10 Yr hwn y mae einioes pob peth byw yn ei law, ac anadl pob math ar ddyn. 11 Onid y glust a farna ymadroddion? a’r genau a archwaetha ei fwyd? 12 Doethineb sydd mewn henuriaid; a deall mewn hir ddyddiau. 13 Gydag ef y mae doethineb a chadernid; cyngor a deall sydd ganddo. 14 Wele, efe a ddistrywia, ac nid adeiledir: efe a gae ar ŵr, ac nid agorir arno. 15 Wele, efe a atal y dyfroedd, a hwy a sychant: efe a’u denfyn hwynt, a hwy a ddadymchwelant y ddaear. 16 Gydag ef y mae nerth a doethineb: efe biau y twylledig, a’r twyllodrus. 17 Efe sydd yn gwneuthur i gynghoriaid fyned yn anrhaith; ac efe a ynfyda farnwyr. 18 Efe sydd yn datod rhwym brenhinoedd, ac yn rhwymo gwregys am eu llwynau hwynt. 19 Efe sydd yn gwneuthur i dywysogion fyned yn anrhaith; ac a blyga y rhai cedyrn. 20 Efe sydd yn dwyn ymaith ymadrodd y ffyddlon; ac yn dwyn synnwyr y rhai hen. 21 Efe sydd yn tywallt diystyrwch ar dywysogion; ac yn gwanhau nerth y rhai cryfion. 22 Efe sydd yn datguddio pethau dyfnion allan o dywyllwch; ac yn dwyn cysgod angau allan i oleuni. 23 Efe sydd yn amlhau y cenhedloedd, ac yn eu distrywio hwynt: efe sydd yn ehengi ar y cenhedloedd, ac efe a’u dwg hwynt i gyfyngdra. 24 Efe sydd yn dwyn calon penaethiaid pobl y ddaear; ac efe a wna iddynt grwydro mewn anialwch heb ffordd. 25 Hwy a balfalant yn y tywyllwch heb oleuni; ac efe a wna iddynt hwy gyfeiliorni fel meddwyn.