Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Job 10  Beibl William Morgan

10 Y mae fy enaid yn blino ar fy einioes: arnaf fy hun y gadawaf fy nghwyn; ac yn chwerwder fy enaid y llefaraf. 2 Dywedaf wrth Dduw, Na farn fi yn euog; gwna i mi wybod paham yr ymrysoni â mi. 3 Ai da i ti orthrymu, fel y diystyrit waith dy ddwylo, ac y llewyrchit gyngor yr annuwiol? 4 Ai llygaid o gnawd sydd i ti? ai fel y gwêl dyn y gweli di? 5 A ydyw dy ddyddiau di fel dyddiau dyn? a ydyw dy flynyddoedd di fel dyddiau gŵr, 6 Pan geisi fy anwiredd, a phan ymofynni am fy mhechod? 7 Ti a wyddost nad ydwyf annuwiol; ac nid oes a waredo o’th law di. 8 Dy ddwylo di a’m gweithiasant, ac a’m cydluniasant o amgylch; eto fy nifetha yr wyt. 9 Cofia, atolwg, mai fel clai y gwnaethost fi; ac a ddygi di fi i’r pridd drachefn? 10 Oni thywelltaist fi fel llaeth; ac oni cheulaist fi fel caws? 11 Ti a’m gwisgaist i â chroen, ac â chnawd; ti a’m diffynnaist i ag esgyrn ac â giau. 12 Bywyd a thrugaredd a ddarperaist i mi, a’th ymgeledd a gadwodd fy ysbryd. 13 A’r pethau hyn a guddiaist ti yn dy galon: gwn fod hyn gyda thi. 14 Os pechaf, ti a’m gwyli, ac ni’m glanhei oddi wrth fy anwiredd. 15 Os ydwyf annuwiol, gwae fi; ac os cyfiawn ydwyf, er hynny ni chodaf fy mhen: yr ydwyf yn llawn o warthrudd, am hynny gwêl fy nghystudd; 16 Canys cynyddu y mae: fy hela yr ydwyt fel llew creulon: er hynny drachefn ti a wnei yn rhyfedd â mi. 17 Yr wyt ti yn adnewyddu dy dystion i’m herbyn, ac yn amlhau dy ddigofaint wrthyf; cyfnewidiau a rhyfel sydd i’m herbyn. 18 Paham gan hynny y dygaist fi allan o’r groth? O na buaswn farw, ac na’m gwelsai llygad! 19 Mi a fuaswn megis pe na buaswn, a myfi a ddygasid o’r bru i’r bedd. 20 Onid ychydig yw fy nyddiau? paid gan hynny, gad im lonydd, fel yr ymgysurwyf ychydig; 21 Cyn myned ohonof lle ni ddychwelwyf, i dir tywyllwch a chysgod angau; 22 Tir tywyllwch fel y fagddu, a chysgod angau, a heb drefn; lle y mae y goleuni fel y tywyllwch.

Next
Job 9
Job 11
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences