Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Jeremeia 33  Beibl William Morgan

33 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw: 3 Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; 5 Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. 6 Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. 7 A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. 8 A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.

9 A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) 11 Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch Arglwydd y lluoedd; oherwydd daionus yw yr Arglwydd, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd. 12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. 13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr Arglwydd. 14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. 16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. 18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; 21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. 22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. 23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: 26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.

Next
Jeremeia 32
Jeremeia 34
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences