Add parallel Print Page Options

32 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor. Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda. Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi; Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau; Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd â’r Caldeaid, ni lwyddwch.

A Jeremeia a lefarodd, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef. Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn. A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian. 10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau. 11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a’r hwn oedd yn agored. 12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.

13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd, 14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer. 15 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.

16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, 17 O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, â’th fawr allu ac â’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti. 18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw; 19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd; 20 Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw, megis heddiw; 21 Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac â rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr; 22 Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt. 24 Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. 25 A thi a ddywedaist wrthyf, O Arglwydd Dduw, Prŷn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.

26 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 27 Wele, myfi yw yr Arglwydd, Duw pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi? 28 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. 29 A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i. 30 Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr Arglwydd. 31 Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: 32 Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem. 33 Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau: 34 Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. 35 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.

36 Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint; 37 Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. 38 A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 39 A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl. 40 A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf. 41 Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, â’m holl galon, ac â’m holl enaid. 42 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn, felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. 43 A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi. 44 Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr Arglwydd.