Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Jeremeia 12  Beibl William Morgan

12 Cyfiawn wyt, Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi: er hynny ymresymaf â thi am dy farnedigaethau: Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffynna yr anffyddloniaid oll? 2 Plennaist hwy, ie, gwreiddiasant; cynyddant, ie, dygant ffrwyth; agos wyt yn eu genau, a phell oddi wrth eu harennau. 3 Ond ti, Arglwydd, a’m hadwaenost i; ti a’m gwelaist, ac a brofaist fy nghalon tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa. 4 Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, oblegid drygioni y rhai sydd yn trigo ynddo? methodd yr anifeiliaid a’r adar, oblegid iddynt ddywedyd, Ni wêl efe ein diwedd ni.

5 O rhedaist ti gyda’r gwŷr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdrewi â’r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlon, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen? 6 Canys dy frodyr, a thŷ dy dad, ie, y rhai hynny a wnaethant yn anffyddlon â thi; hwynt‐hwy hefyd a waeddasant yn groch ar dy ôl: na choelia hwy, er iddynt ddywedyd geiriau teg wrthyt.

7 Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion. 8 Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi. 9 Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa. 10 Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol. 11 Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon. 12 Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd. 13 Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr Arglwydd.

14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt. 15 Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth, a phob un i’w dir. 16 Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr Arglwydd, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl. 17 Eithr oni wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.

Next
Jeremeia 11
Jeremeia 13
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences