Add parallel Print Page Options

Rhedwch yma a thraw ar hyd heolydd Jerwsalem, ac edrychwch yr awr hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, a oes a wnêl farn, a gais wirionedd, a myfi a’i harbedaf hi. Ac er dywedyd ohonynt, Byw yw yr Arglwydd, eto yn gelwyddog y tyngant. O Arglwydd, onid ar y gwirionedd y mae dy lygaid di? ti a’u trewaist hwynt, ac nid ymofidiasant; difeaist hwynt, eithr gwrthodasant dderbyn cerydd: hwy a wnaethant eu hwynebau yn galetach na chraig, gwrthodasant ddychwelyd. A mi a ddywedais, Yn sicr tlodion ydyw y rhai hyn, ynfydion ydynt: canys nid adwaenant ffordd yr Arglwydd, na barn eu Duw. Mi a af rhagof at y gwŷr mawr, ac a ymddiddanaf â hwynt; canys hwy a wybuant ffordd yr Arglwydd, a barn eu Duw: eithr y rhai hyn a gyd‐dorasant yr iau, ac a ddrylliasant y rhwymau. Oblegid hyn llew o’r coed a’u tery hwy, blaidd o’r anialwch a’u distrywia hwy, llewpard a wylia ar eu dinasoedd hwy: pawb a’r a ddêl allan ohonynt a rwygir: canys eu camweddau a amlhasant, eu gwrthdrofeydd a chwanegasant.

Pa fodd y’th arbedwn am hyn? dy blant a’m gadawsant i, ac a dyngasant i’r rhai nid ydynt dduwiau: a phan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dŷ y butain. Oeddynt fel meirch porthiannus y bore; gweryrent bob un ar wraig ei gymydog. Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd: oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

10 Dringwch ar ei muriau hi, a distrywiwch, ond na orffennwch yn llwyr: tynnwch ymaith ei mur‐ganllawiau hi: canys nid eiddo’r Arglwydd ydynt. 11 Oblegid tŷ Israel a thŷ Jwda a wnaethant yn anffyddlon iawn â mi, medd yr Arglwydd. 12 Celwyddog fuant yn erbyn yr Arglwydd, a dywedasant, Nid efe yw; ac ni ddaw drygfyd arnom, ac ni welwn gleddyf na newyn: 13 A’r proffwydi a fuant fel gwynt, a’r gair nid yw ynddynt: fel hyn y gwneir iddynt hwy. 14 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, wele fi yn rhoddi fy ngeiriau yn dy enau di yn dân, a’r bobl hyn yn gynnud, ac efe a’u difa hwynt. 15 Wele, mi a ddygaf arnoch chwi, tŷ Israel, genedl o bell, medd yr Arglwydd; cenedl nerthol ydyw, cenedl a fu er ys talm, cenedl ni wyddost ei hiaith, ac ni ddeelli beth a ddywedant. 16 Ei chawell saethau hi sydd fel bedd agored, cedyrn ydynt oll. 17 A hi a fwyty dy gynhaeaf di, a’th fara, yr hwn a gawsai dy feibion di a’th ferched ei fwyta: hi a fwyty dy ddefaid di a’th wartheg; hi a fwyty dy winwydd a’th ffigyswydd: dy ddinasoedd cedyrn, y rhai yr wyt yn ymddiried ynddynt, a dloda hi â’r cleddyf. 18 Ac er hyn, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni wnaf fi gwbl ben â chwi.

19 A bydd pan ddywedoch, Paham y gwna yr Arglwydd ein Duw hyn oll i ni? ddywedyd ohonot tithau wrthynt, Megis y gwrthodasoch fi, ac y gwasanaethasoch dduwiau dieithr yn eich tir eich hun; felly gwasanaethwch ddieithriaid mewn tir ni byddo eiddo chwi. 20 Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, a chyhoeddwch hyn yn Jwda, gan ddywedyd, 21 Gwrando hyn yn awr, ti bobl ynfyd ac heb ddeall; y rhai y mae llygaid iddynt, ac ni welant; a chlustiau iddynt, ac ni chlywant: 22 Onid ofnwch chwi fi? medd yr Arglwydd: oni chrynwch rhag fy mron, yr hwn a osodais y tywod yn derfyn i’r môr trwy ddeddf dragwyddol, fel nad elo dros hwnnw; er i’r tonnau ymgyrchu, eto ni thycia iddynt; er iddynt derfysgu, eto ni ddeuant dros hwnnw? 23 Eithr i’r bobl hyn y mae calon wrthnysig ac anufuddgar: hwynt‐hwy a giliasant, ac a aethant ymaith. 24 Ac ni ddywedant yn eu calon, Ofnwn weithian yr Arglwydd ein Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r glaw cynnar a’r diweddar yn ei amser: efe a geidw i ni ddefodol wythnosau y cynhaeaf.

25 Eich anwireddau chwi a droes heibio y rhai hyn, a’ch pechodau chwi a ataliasant ddaioni oddi wrthych. 26 Canys ymysg fy mhobl y ceir anwiriaid, y rhai a wyliant megis un yn gosod maglau: gosodant offer dinistr, dynion a ddaliant. 27 Fel cawell yn llawn o adar, felly y mae eu tai hwynt yn llawn o dwyll: am hynny y cynyddasant, ac yr ymgyfoethogasant. 28 Tewychasant, disgleiriasant, aethant hefyd tu hwnt i weithredoedd y drygionus; ni farnant farn yr amddifad, eto ffynasant; ac ni farnant farn yr anghenus. 29 Onid ymwelaf am y pethau hyn? medd yr Arglwydd; oni ddial fy enaid ar gyfryw genedl â hon?

30 Peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir: 31 Y proffwydi a broffwydant gelwydd, yr offeiriaid hefyd a lywodraethant trwy eu gwaith hwynt; a’m pobl a hoffant hynny: eto beth a wnewch yn niwedd hyn?

Not One Is Upright

“Go up and down(A) the streets of Jerusalem,
    look around and consider,(B)
    search through her squares.
If you can find but one person(C)
    who deals honestly(D) and seeks the truth,
    I will forgive(E) this city.
Although they say, ‘As surely as the Lord lives,’(F)
    still they are swearing falsely.(G)

Lord, do not your eyes(H) look for truth?
    You struck(I) them, but they felt no pain;
    you crushed them, but they refused correction.(J)
They made their faces harder than stone(K)
    and refused to repent.(L)
I thought, “These are only the poor;
    they are foolish,(M)
for they do not know(N) the way of the Lord,
    the requirements of their God.
So I will go to the leaders(O)
    and speak to them;
surely they know the way of the Lord,
    the requirements of their God.”
But with one accord they too had broken off the yoke
    and torn off the bonds.(P)
Therefore a lion from the forest(Q) will attack them,
    a wolf from the desert will ravage(R) them,
a leopard(S) will lie in wait near their towns
    to tear to pieces any who venture out,
for their rebellion is great
    and their backslidings many.(T)

“Why should I forgive you?
    Your children have forsaken me
    and sworn(U) by gods that are not gods.(V)
I supplied all their needs,
    yet they committed adultery(W)
    and thronged to the houses of prostitutes.(X)
They are well-fed, lusty stallions,
    each neighing for another man’s wife.(Y)
Should I not punish them for this?”(Z)
    declares the Lord.
“Should I not avenge(AA) myself
    on such a nation as this?

10 “Go through her vineyards and ravage them,
    but do not destroy them completely.(AB)
Strip off her branches,
    for these people do not belong to the Lord.
11 The people of Israel and the people of Judah
    have been utterly unfaithful(AC) to me,”
declares the Lord.

12 They have lied(AD) about the Lord;
    they said, “He will do nothing!
No harm will come to us;(AE)
    we will never see sword or famine.(AF)
13 The prophets(AG) are but wind(AH)
    and the word is not in them;
    so let what they say be done to them.”

14 Therefore this is what the Lord God Almighty says:

“Because the people have spoken these words,
    I will make my words in your mouth(AI) a fire(AJ)
    and these people the wood it consumes.(AK)
15 People of Israel,” declares the Lord,
    “I am bringing a distant nation(AL) against you—
an ancient and enduring nation,
    a people whose language(AM) you do not know,
    whose speech you do not understand.
16 Their quivers(AN) are like an open grave;
    all of them are mighty warriors.
17 They will devour(AO) your harvests and food,
    devour(AP) your sons and daughters;
they will devour(AQ) your flocks and herds,
    devour your vines and fig trees.(AR)
With the sword(AS) they will destroy
    the fortified cities(AT) in which you trust.(AU)

18 “Yet even in those days,” declares the Lord, “I will not destroy(AV) you completely. 19 And when the people ask,(AW) ‘Why has the Lord our God done all this to us?’ you will tell them, ‘As you have forsaken me and served foreign gods(AX) in your own land, so now you will serve foreigners(AY) in a land not your own.’

20 “Announce this to the descendants of Jacob
    and proclaim(AZ) it in Judah:
21 Hear this, you foolish and senseless people,(BA)
    who have eyes(BB) but do not see,
    who have ears but do not hear:(BC)
22 Should you not fear(BD) me?” declares the Lord.
    “Should you not tremble(BE) in my presence?
I made the sand a boundary for the sea,(BF)
    an everlasting barrier it cannot cross.
The waves may roll, but they cannot prevail;
    they may roar,(BG) but they cannot cross it.
23 But these people have stubborn and rebellious(BH) hearts;
    they have turned aside(BI) and gone away.
24 They do not say to themselves,
    ‘Let us fear(BJ) the Lord our God,
who gives autumn and spring rains(BK) in season,
    who assures us of the regular weeks of harvest.’(BL)
25 Your wrongdoings have kept these away;
    your sins have deprived you of good.(BM)

26 “Among my people are the wicked(BN)
    who lie in wait(BO) like men who snare birds
    and like those who set traps(BP) to catch people.
27 Like cages full of birds,
    their houses are full of deceit;(BQ)
they have become rich(BR) and powerful
28     and have grown fat(BS) and sleek.
Their evil deeds have no limit;
    they do not seek justice.
They do not promote the case of the fatherless;(BT)
    they do not defend the just cause of the poor.(BU)
29 Should I not punish them for this?”
    declares the Lord.
“Should I not avenge(BV) myself
    on such a nation as this?

30 “A horrible(BW) and shocking thing
    has happened in the land:
31 The prophets prophesy lies,(BX)
    the priests(BY) rule by their own authority,
and my people love it this way.
    But what will you do in the end?(BZ)