Add parallel Print Page Options

41 Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa. Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a’r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf, ac a’i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad. Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedaleia, ym Mispa, a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr. A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod, Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac â thus yn eu dwylo, i’w dwyn i dŷ yr Arglwydd. Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam. A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt, ac a’u bwriodd i ganol y pydew, efe a’r gwŷr oedd gydag ef. Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr. A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â’r rhai a laddasid. 10 Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon.

11 Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia; 12 Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon. 13 A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant. 14 Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea. 15 Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon. 16 Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon. 17 A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft, 18 Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.