Add parallel Print Page Options

31 Yr amser hwnnw, medd yr Arglwydd, y byddaf Dduw i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel. Er ys talm yr ymddangosodd yr Arglwydd i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd. Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns. Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gyffredin. Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr Arglwydd ein Duw. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O Arglwydd, cadw dy bobl, gweddill Israel. Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma. Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf‐anedig.

10 Gwrandewch air yr Arglwydd, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a’i casgl ef, ac a’i ceidw fel bugail ei braidd. 11 Oherwydd yr Arglwydd a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef. 12 Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr Arglwydd, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach. 13 Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch. 14 A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr Arglwydd.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt. 16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th lafur, medd yr Arglwydd; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn. 17 Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr Arglwydd, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.

18 Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr Arglwydd fy Nuw. 19 Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid. 20 Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr Arglwydd. 21 Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn.

22 Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr Arglwydd a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr. 23 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr Arglwydd a’th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd. 24 Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd. 25 Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais. 26 Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.

27 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail. 28 Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr Arglwydd. 29 Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod. 30 Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.

31 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda: 32 Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr Arglwydd. 33 Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant yn bobl i mi. 34 Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr Arglwydd: oherwydd hwynt‐hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr Arglwydd; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.

35 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; Arglwydd y lluoedd yw ei enw: 36 Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd i, medd yr Arglwydd, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd. 37 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr Arglwydd.

38 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, yr adeiledir y ddinas i’r Arglwydd, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl. 39 A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath. 40 A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, a’r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain, a fydd sanctaidd i’r Arglwydd; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.