Add parallel Print Page Options

A’r Iesu a aeth i fynydd yr Olewydd: Ac a ddaeth drachefn y bore i’r deml; a’r holl bobl a ddaeth ato ef: yntau a eisteddodd, ac a’u dysgodd hwynt. A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddygasant ato ef wraig, yr hon a ddaliesid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol, Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu. A Moses yn y gyfraith a orchmynnodd i ni labyddio’r cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd? A hyn a ddywedasant hwy, gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymu tua’r llawr, a ysgrifennodd â’i fys ar y ddaear, heb gymryd arno eu clywed. Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymunionodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddibechod ohonoch, tafled yn gyntaf garreg ati hi. Ac wedi iddo eilwaith ymgrymu tua’r llawr, efe a ysgrifennodd ar y ddaear. Hwythau, pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyhoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o un i un, gan ddechrau o’r hynaf hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn unig, a’r wraig yn sefyll yn y canol. 10 A’r Iesu wedi ymunioni, ac heb weled neb ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhuddwyr di? oni chondemniodd neb di? 11 Hithau a ddywedodd, Naddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finnau yn dy gondemnio di: dos, ac na phecha mwyach.

12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni’r byd ydwyf fi: yr hwn a’m dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni’r bywyd. 13 Am hynny y Phariseaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu amdanat dy hun; nid yw dy dystiolaeth di wir. 14 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu amdanaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y deuthum, ac i ba le yr ydwyf yn myned; chwithau nis gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyf fi yn myned. 15 Chwychwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd; nid ydwyf fi yn barnu neb. 16 Ac eto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyf fi yn unig, ond myfi a’r Tad yr hwn a’m hanfonodd i. 17 Y mae hefyd yn ysgrifenedig yn eich cyfraith chwi, Mai gwir yw tystiolaeth dau ddyn. 18 Myfi yw’r hwn sydd yn tystiolaethu amdanaf fy hun; ac y mae’r Tad, yr hwn a’m hanfonodd i, yn tystiolaethu amdanaf fi. 19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy Dad di? Yr Iesu a atebodd, Nid adwaenoch na myfi, na’m Tad: ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd. 20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y trysordy, wrth athrawiaethu yn y deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethai ei awr ef eto. 21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi yn myned ymaith, a chwi a’m ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ei hun? gan ei fod yn dywedyd, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddi isod; minnau sydd oddi uchod: chwychwi sydd o’r byd hwn; minnau nid wyf o’r byd hwn. 24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw efe, chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau. 25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o’r dechreuad. 26 Y mae gennyf fi lawer o bethau i’w dywedyd ac i’w barnu amdanoch chwi: eithr cywir yw’r hwn a’m hanfonodd i; a’r pethau a glywais i ganddo, y rhai hynny yr ydwyf fi yn eu dywedyd i’r byd. 27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy. 28 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan ddyrchafoch chwi Fab y dyn, yna y cewch wybod mai myfi yw efe, ac nad wyf fi yn gwneuthur dim ohonof fy hun; ond megis y dysgodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn. 29 A’r hwn a’m hanfonodd i sydd gyda myfi: ni adawodd y Tad fi yn unig; oblegid yr wyf fi yn gwneuthur bob amser y pethau sydd fodlon ganddo ef. 30 Fel yr oedd efe yn llefaru’r pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef. 31 Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasant ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, disgyblion i mi ydych yn wir; 32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd, a’r gwirionedd a’ch rhyddha chwi.

33 Hwythau a atebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion? 34 Yr Iesu a atebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn was i bechod. 35 Ac nid yw’r gwas yn aros yn tŷ byth: y Mab sydd yn aros byth. 36 Os y Mab gan hynny a’ch rhyddha chwi, rhyddion fyddwch yn wir. 37 Mi a wn mai had Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, am nad yw fy ngair i yn genni ynoch chwi. 38 Yr wyf fi yn llefaru yr hyn a welais gyda’m Tad i: a chwithau sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyda’ch tad chwithau. 39 Hwythau a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Ein tad ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech. 40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dyn a ddywedodd i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham. 41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy buteindra y cenhedlwyd ni: un Tad sydd gennym ni, sef Duw. 42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddai eich Tad, chwi a’m carech i: canys oddi wrth Dduw y deilliais, ac y deuthum i; oblegid nid ohonof fy hun y deuthum i, ond efe a’m hanfonodd i. 43 Paham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i. 44 O’ch tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur. Lleiddiad dyn oedd efe o’r dechreuad; ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o’r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo. 45 Ac am fy mod i yn dywedyd y gwirionedd, nid ydych yn credu i mi. 46 Pwy ohonoch a’m hargyhoedda i o bechod? Ac od wyf fi yn dywedyd y gwir, paham nad ydych yn credu i mi? 47 Y mae’r hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw: am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. 48 Yna yr atebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Onid da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennyt gythraul? 49 Yr Iesu a atebodd, Nid oes gennyf gythraul; ond yr wyf fi yn anrhydeddu fy Nhad, ac yr ydych chwithau yn fy nianrhydeddu innau. 50 Ac nid wyf fi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a’i cais, ac a farn. 51 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wêl efe farwolaeth yn dragywydd. 52 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennyt gythraul. Bu Abraham farw, a’r proffwydi; ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. 53 Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a’r proffwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun? 54 Yr Iesu a atebodd, Os wyf fi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhad yw’r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd, mai eich Duw chwi yw. 55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a’i hadwaen ef. Ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a’i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. 56 Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd i: ac efe a’i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. 57 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain eto, ac a welaist ti Abraham? 58 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Cyn bod Abraham, yr wyf fi. 59 Yna hwy a godasant gerrig i’w taflu ato ef. A’r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o’r deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.