Add parallel Print Page Options

Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a’r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd; a’r bywyd oedd oleuni dynion. A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.

Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a’r y sydd yn dyfod i’r byd. 10 Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a’r byd nid adnabu ef. 11 At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12 Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. 14 A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.

15 Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais amdano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 16 Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras am ras. 17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.

19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, Pwy wyt ti? 20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, Nid myfi yw’r Crist. 21 A hwy a ofynasant iddo, Beth ynteu? Ai Eleias wyt ti? Yntau a ddywedodd, Nage. Ai’r Proffwyd wyt ti? Ac efe a atebodd, Nage. 22 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun? 23 Eb efe, Myfi yw llef un yn gweiddi yn y diffeithwch, Unionwch ffordd yr Arglwydd, fel y dywedodd Eseias y proffwyd. 24 A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid. 25 A hwy a ofynasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist, nac Eleias, na’r proffwyd? 26 Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sydd yn bedyddio â dwfr; ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi: 27 Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i; yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid. 28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.

29 Trannoeth Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau’r byd. 30 Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i: canys yr oedd efe o’m blaen i. 31 Ac myfi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr. 32 Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen, o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. 33 A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn, ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân. 34 A mi a welais, ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.

35 Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion: 36 A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele Oen Duw. 37 A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu. 38 Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro,) pa le yr wyt ti yn trigo? 39 Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch, a gwelwch. A hwy a ddaethant, ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw: ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr. 40 Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef. 41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Meseias; yr hyn o’i ddeongl yw, Y Crist. 42 Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. A’r Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, Ti yw Simon mab Jona: ti a elwir Ceffas, yr hwn a gyfieithir, Carreg.

43 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. 44 A Philip oedd o Fethsaida, o ddinas Andreas a Phedr. 45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith, a’r proffwydi, amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff. 46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nasareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred, a gwêl. 47 Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato; ac a ddywedodd amdano, Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. 48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd y’m hadwaenost? Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di. 49 Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw; ti yw Brenin Israel. 50 Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Oherwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn. 51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.