Add parallel Print Page Options

Na fyddwch feistriaid lawer, fy mrodyr: gan wybod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith yw hwnnw, yn gallu ffrwyno’r holl gorff hefyd. Wele, yr ydym ni yn rhoddi ffrwynau ym mhennau’r meirch, i’w gwneuthur yn ufudd i ni; ac yr ydym yn troi eu holl gorff hwy oddi amgylch. Wele, y llongau hefyd, er eu maint, ac er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno’r llywydd. Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion. Wele, faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn! A’r tafod, tân ydyw, byd o anghyfiawnder. Felly y mae’r tafod wedi ei osod ymhlith ein haelodau ni, fel y mae yn halogi’r holl gorff, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflam; ac wedi ei wneuthur yn fflam gan uffern. Canys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a’r pethau yn y môr, a ddofir ac a ddofwyd gan natur ddynol: Eithr y tafod ni ddichon un dyn ei ddofi; drwg anllywodraethus ydyw, yn llawn gwenwyn marwol. Ag ef yr ydym yn bendithio Duw a’r Tad; ag ef hefyd yr ydym yn melltithio dynion, a wnaethpwyd ar lun Duw. 10 O’r un genau y mae’n dyfod allan fendith a melltith. Fy mrodyr, ni ddylai’r pethau hyn fod felly. 11 A ydyw ffynnon o’r un llygad yn rhoi dwfr melys a chwerw? 12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden, ffigys? felly ni ddichon un ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw. 13 Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed, trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra doethineb. 14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrostwyr a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd. 15 Nid yw’r doethineb hwn yn disgyn oddi uchod; ond daearol, anianol, cythreulig yw. 16 Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg. 17 Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith. 18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.

Taming the Tongue

Not many of you should become teachers,(A) my fellow believers, because you know that we who teach will be judged(B) more strictly.(C) We all stumble(D) in many ways. Anyone who is never at fault in what they say(E) is perfect,(F) able to keep their whole body in check.(G)

When we put bits into the mouths of horses to make them obey us, we can turn the whole animal.(H) Or take ships as an example. Although they are so large and are driven by strong winds, they are steered by a very small rudder wherever the pilot wants to go. Likewise, the tongue is a small part of the body, but it makes great boasts.(I) Consider what a great forest is set on fire by a small spark. The tongue also is a fire,(J) a world of evil among the parts of the body. It corrupts the whole body,(K) sets the whole course of one’s life on fire, and is itself set on fire by hell.(L)

All kinds of animals, birds, reptiles and sea creatures are being tamed and have been tamed by mankind, but no human being can tame the tongue. It is a restless evil, full of deadly poison.(M)

With the tongue we praise our Lord and Father, and with it we curse human beings, who have been made in God’s likeness.(N) 10 Out of the same mouth come praise and cursing. My brothers and sisters, this should not be. 11 Can both fresh water and salt water flow from the same spring? 12 My brothers and sisters, can a fig tree bear olives, or a grapevine bear figs?(O) Neither can a salt spring produce fresh water.

Two Kinds of Wisdom

13 Who is wise and understanding among you? Let them show it(P) by their good life, by deeds(Q) done in the humility that comes from wisdom. 14 But if you harbor bitter envy and selfish ambition(R) in your hearts, do not boast about it or deny the truth.(S) 15 Such “wisdom” does not come down from heaven(T) but is earthly, unspiritual, demonic.(U) 16 For where you have envy and selfish ambition,(V) there you find disorder and every evil practice.

17 But the wisdom that comes from heaven(W) is first of all pure; then peace-loving,(X) considerate, submissive, full of mercy(Y) and good fruit, impartial and sincere.(Z) 18 Peacemakers(AA) who sow in peace reap a harvest of righteousness.(AB)