Add parallel Print Page Options

At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr y daw yn erbyn tŷ yr Arglwydd, am iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith. Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di. Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau. Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd? Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe Dduw: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria. Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc. Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo. Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau. 10 Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion. 11 Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu. 12 Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd. 13 Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytânt; yr Arglwydd nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft. 14 Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.