Add parallel Print Page Options

Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl. Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd‐dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant. Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd. Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd. Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i. Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth; Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau. Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall. Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw. 10 Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau. 11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth. 12 Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon. 13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn sôn. 14 Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. 15 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd‐ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod. 16 Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.