Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Hebreaid 11  Beibl William Morgan

11 Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled. 2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr henuriaid air da. 3 Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y bydoedd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. 4 Trwy ffydd yr offrymodd Abel i Dduw aberth rhagorach na Chain; trwy yr hon y cafodd efe dystiolaeth ei fod yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth i’w roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe, wedi marw, yn llefaru eto. 5 Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Dduw ei symud ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dystiolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Duw. 6 Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i’r neb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fod ef, a’i fod yn obrwywr i’r rhai sydd yn ei geisio ef. 7 Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy’r hon y condemniodd efe y byd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd. 8 Trwy ffydd, Abraham, pan ei galwyd, a ufuddhaodd, gan fyned i’r man yr oedd efe i’w dderbyn yn etifeddiaeth; ac a aeth allan, heb wybod i ba le yr oedd yn myned. 9 Trwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai gydag Isaac a Jacob, cyd‐etifeddion o’r un addewid: 10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. 11 Trwy ffydd Sara hithau yn amhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddŵyn had; ac wedi amser oedran, a esgorodd; oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsai. 12 Oherwydd paham hefyd y cenhedlwyd o un, a hwnnw yn gystal â marw, cynifer â sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, y sydd yn aneirif. 13 Mewn ffydd y bu farw’r rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaear. 14 Canys y mae’r rhai sydd yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bod yn ceisio gwlad. 15 Ac yn wir, pe buasent yn meddwl am y wlad honno, o’r hon y daethent allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd: 16 Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw, un nefol: o achos paham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt. 17 Trwy ffydd yr offrymodd Abraham Isaac, pan ei profwyd: a’i unig‐anedig fab a offrymodd efe, yr hwn a dderbyniasai’r addewidion: 18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwir i ti had: 19 Gan gyfrif bod Duw yn abl i’w gyfodi ef o feirw; o ba le y cawsai efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth. 20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent. 21 Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon. 22 Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn. 23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. 27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. 28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt. 29 Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant. 30 Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. 31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol. 32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a’r proffwydi; 33 Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod, 34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. 35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell. 36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar: 37 Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; 38 (Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. 39 A’r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid: 40 Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.

Next
Hebreaid 10
Hebreaid 12
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences