Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 8  Beibl William Morgan

8 A Duw a gofiodd Noa, a phob peth byw, a phob anifail a’r a oedd gydag ef yn yr arch: a Duw a wnaeth i wynt dramwy ar y ddaear, a’r dyfroedd a lonyddasant. 2 Caewyd hefyd ffynhonnau’r dyfnder a ffenestri’r nefoedd; a lluddiwyd y glaw o’r nefoedd. 3 A’r dyfroedd a ddychwelasant oddi ar y ddaear, gan fyned a dychwelyd: ac ymhen y deng niwrnod a deugain a chant, y dyfroedd a dreiasai.

4 Ac yn y seithfed mis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o’r mis, y gorffwysodd yr arch ar fynyddoedd Ararat. 5 A’r dyfroedd fuant yn myned ac yn treio, hyd y degfed mis: yn y degfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y gwelwyd pennau’r mynyddoedd.

6 Ac ymhen deugain niwrnod yr agorodd Noa ffenestr yr arch a wnaethai efe. 7 Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear. 8 Ac efe a anfonodd golomen oddi wrtho, i weled a dreiasai’r dyfroedd oddi ar wyneb y ddaear. 9 Ac ni chafodd y golomen orffwysfa i wadn ei throed; a hi a ddychwelodd ato ef i’r arch, am fod y dyfroedd ar wyneb yr holl dir: ac efe a estynnodd ei law, ac a’i cymerodd hi, ac a’i derbyniodd hi ato i’r arch. 10 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golomen allan o’r arch. 11 A’r golomen a ddaeth ato ef ar brynhawn; ac wele ddeilen olewydden yn ei gylfin hi, wedi ei thynnu: yna y gwybu Noa dreio o’r dyfroedd oddi ar y ddaear. 12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.

13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y darfu i’r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear. 14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o’r mis, y ddaear a sychasai.

15 A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd, 16 Dos allan o’r arch, ti, a’th wraig, a’th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi. 17 Pob peth byw a’r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear. 18 A Noa a aeth allan, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef. 19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o’r arch.

20 A Noa a adeiladodd allor i’r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor. 21 A’r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio’r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o’i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum. 22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.

Next
Genesis 7
Genesis 9
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences