Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 47  Beibl William Morgan

47 Yna y daeth Joseff ac a fynegodd i Pharo, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen. 2 Ac efe a gymerth rai o’i frodyr, sef pum dyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharo. 3 A dywedodd Pharo wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharo, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd. 4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen. 5 A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant atat. 6 Tir yr Aifft sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi. 7 A dug Joseff Jacob ei dad, ac a’i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo. 8 A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di? 9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt. 10 A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.

11 A Joseff a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo. 12 Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ôl eu teuluoedd.

13 Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aifft, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn. 14 Joseff hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aifft, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseff a ddug yr arian i dŷ Pharo. 15 Pan ddarfu’r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu’r arian. 16 A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu’r arian. 17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno. 18 A phan ddarfu’r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir. 19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? prŷn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo’r tir yn anghyfannedd. 20 A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo. 21 Y bobl hefyd, efe a’u symudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall. 22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a’u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir. 23 Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a’ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir. 24 A bydded i chwi roddi i Pharo y bumed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach. 25 A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gad i ni gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharo. 26 A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.

27 Trigodd Israel hefyd yng ngwlad yr Aifft o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr. 28 Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aifft ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chan mlynedd. 29 A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseff, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, atolwg, yn yr Aifft: 30 Eithr mi a orweddaf gyda’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aifft, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ôl dy air. 31 Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymodd ar ben y gwely.

Next
Genesis 46
Genesis 48
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences