Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 46  Beibl William Morgan

46 Yna y cychwynnodd Israel, a’r hyn oll oedd ganddo, ac a ddaeth i Beer‐seba, ac a aberthodd ebyrth i Dduw ei dad Isaac. 2 A llefarodd Duw wrth Israel mewn gweledigaethau nos, ac a ddywedodd, Jacob, Jacob. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 3 Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aifft; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr. 4 Myfi a af i waered gyda thi i’r Aifft; a myfi gan ddwyn a’th ddygaf di i fyny drachefn: Joseff hefyd a esyd ei law ar dy lygaid di. 5 A chyfododd Jacob o Beer‐seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a’u rhai bach, a’u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i’w ddwyn ef. 6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a’u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i’r Aifft, Jacob, a’i holl had gydag ef: 7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a’i holl had, a ddug efe gydag ef i’r Aifft.

8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft, Jacob a’i feibion: Reuben, cynfab Jacob. 9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.

10 A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.

11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.

12 A meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela, Phares hefyd, a Sera: a buasai farw Er ac Onan yn nhir Canaan. A meibion Phares oedd Hesron a Hamul.

13 Meibion Issachar hefyd; Tola, a Phufa, a Job, a Simron.

14 A meibion Sabulon; Sered, ac Elon, a Jaleel. 15 Dyma feibion Lea, y rhai a blantodd hi i Jacob ym Mesopotamia, a Dina ei ferch: ei feibion a’i ferched oeddynt oll dri dyn ar ddeg ar hugain.

16 A meibion Gad; Siffion, a Haggi, Suni, ac Esbon, Eri, ac Arodi, ac Areli.

17 A meibion Aser; Jimna, ac Isua, ac Isui, a Bereia, a Sera eu chwaer hwynt. A meibion Bereia; Heber a Malchiel. 18 Dyma feibion Silpa, yr hon a roddodd Laban i Lea ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, sef un dyn ar bymtheg.

19 Meibion Rahel, gwraig Jacob, oedd Joseff a Benjamin. 20 Ac i Joseff y ganwyd, yn nhir yr Aifft, Manasse ac Effraim, y rhai a blantodd Asnath, merch Potiffera offeiriad On, iddo ef.

21 A meibion Benjamin; Bela, a Becher, ac Asbel, Gera, a Naaman, Ehi, a Ros, Muppim, a Huppim, ac Ard. 22 Dyma feibion Rahel, y rhai a blantodd hi i Jacob; yn bedwar dyn ar ddeg oll.

23 A meibion Dan oedd Husim.

24 A meibion Nafftali; Jahseel, a Guni, a Jeser, a Silem. 25 Dyma feibion Bilha, yr hon a roddodd Laban i Rahel ei ferch: a hi a blantodd y rhai hyn i Jacob, yn saith dyn oll. 26 Yr holl eneidiau y rhai a ddaethant gyda Jacob i’r Aifft, yn dyfod allan o’i lwynau ef, heblaw gwragedd meibion Jacob, oeddynt oll chwe enaid a thrigain. 27 A meibion Joseff, y rhai a anwyd iddo ef yn yr Aifft, oedd ddau enaid: holl eneidiau tŷ Jacob, y rhai a ddaethant i’r Aifft, oeddynt ddeg a thrigain.

28 Ac efe a anfonodd Jwda o’i flaen at Joseff, i gyfarwyddo ei wyneb ef i Gosen: yna y daethant i dir Gosen. 29 A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd. 30 A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto. 31 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi. 32 A’r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt. 33 A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith? 34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o’u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a’n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.

Next
Genesis 45
Genesis 47
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences