Add parallel Print Page Options

44 Ac efe a orchmynnodd i’r hwn oedd olygwr ar ei dŷ ef, gan ddywedyd, Llanw sachau’r gwŷr o fwyd, cymaint ag a allant ei ddwyn, a dod arian pob un yng ngenau ei sach. A dod fy nghwpan fy hun, sef y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuangaf, gydag arian ei ŷd ef. Yntau a wnaeth yn ôl gair Joseff, yr hwn a ddywedasai efe. Y bore a oleuodd, a’r gwŷr a ollyngwyd ymaith, hwynt a’u hasynnod. Hwythau a aethant allan o’r ddinas. Ac nid aethant nepell, pan ddywedodd Joseff wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Cyfod, a dilyn ar ôl y gwŷr: a phan oddiweddech hwynt, dywed wrthynt, Paham y talasoch ddrwg am dda? Onid dyma’r cwpan yr yfai fy arglwydd ynddo, ac yr arferai ddewiniaeth wrtho? Drwg y gwnaethoch yr hyn a wnaethoch.

Yntau a’u goddiweddodd hwynt, ac a ddywedodd y geiriau hynny wrthynt hwy. Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato Duw i’th weision di wneuthur y cyfryw beth. Wele, ni a ddygasom atat ti eilwaith o wlad Canaan yr arian a gawsom yng ngenau ein sachau; pa fodd gan hynny y lladrataem ni arian neu aur o dŷ dy arglwydd di? Yr hwn o’th weision di y ceffir y cwpan gydag ef, bydded hwnnw farw; a ninnau hefyd a fyddwn gaethweision i’m harglwydd. 10 Yntau a ddywedodd, Bydded yn awr fel y dywedasoch chwi: yr hwn y ceffir y cwpan gydag ef a fydd was i mi, a chwithau a fyddwch ddieuog. 11 Hwythau a frysiasant, ac a ddisgynasant bob un ei sach i lawr, ac a agorasant bawb ei ffetan. 12 Yntau a chwiliodd; ar yr hynaf y dechreuodd, ac ar yr ieuangaf y diweddodd: a’r cwpan a gafwyd yn sach Benjamin. 13 Yna y rhwygasant eu dillad, ac a byniasant bawb ar ei asyn, ac a ddychwelasant i’r ddinas.

14 A daeth Jwda a’i frodyr i dŷ Joseff, ac efe eto yno; ac a syrthiasant i lawr ger ei fron ef. 15 A dywedodd Joseff wrthynt, Pa waith yw hwn a wnaethoch chwi? oni wyddech chwi y medr gŵr fel myfi ddewiniaeth? 16 A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd Duw allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i’m harglwydd, ie nyni, a’r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd. 17 Yntau a ddywedodd, Na ato Duw i mi wneuthur hyn: y gŵr y cafwyd y cwpan yn ei law, efe fydd was i mi; ewch chwithau i fyny, mewn heddwch, at eich tad.

18 Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo. 19 Fy arglwydd a ymofynnodd â’i weision, gan ddywedyd, A oes i chwi dad, neu frawd? 20 Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen ŵr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef. 21 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Dygwch ef i waered ataf fi, fel y gosodwyf fy llygaid arno. 22 A ni a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y llanc ni ddichon ymadael â’i dad: oblegid os ymedy efe â’i dad, marw fydd ei dad. 23 Tithau a ddywedaist wrth dy weision, Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyda chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy. 24 Bu hefyd, wedi ein myned ni i fyny at dy was fy nhad, mynegasom iddo ef eiriau fy arglwydd. 25 A dywedodd ein tad, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth. 26 Dywedasom ninnau, Nis gallwn fyned i waered: os bydd ein brawd ieuangaf gyda ni, nyni a awn i waered; oblegid ni allwn edrych yn wyneb y gŵr, oni bydd ein brawd ieuangaf gyda ni. 27 A dywedodd dy was fy nhad wrthym ni, Chwi a wyddoch mai dau a blantodd fy ngwraig i mi; 28 Ac un a aeth allan oddi wrthyf fi; minnau a ddywedais, Yn ddiau gan larpio y llarpiwyd ef; ac nis gwelais ef hyd yn hyn: 29 Os cymerwch hefyd hwn ymaith o’m golwg, a digwyddo niwed iddo ef; yna y gwnewch i’m penllwydni ddisgyn mewn gofid i fedd. 30 Bellach gan hynny, pan ddelwyf at dy was fy nhad, heb fod y llanc gyda ni; (gan fod ei hoedl ef ynglŷn wrth ei hoedl yntau;) 31 Yna pan welo efe na ddaeth y llanc, marw fydd efe; a’th weision a barant i benwynnedd dy was ein tad ni ddisgyn mewn gofid i fedd. 32 Oblegid dy was a aeth yn feichiau am y llanc i’m tad, gan ddywedyd, Onis dygaf ef atat ti, yna byddaf euog o fai yn erbyn fy nhad byth. 33 Gan hynny weithian, atolwg,arhoseddy was dros y llanc, yn was i’m harglwydd; ac aed y llanc i fyny gyda’i frodyr: 34 Oblegid pa fodd yr af i fyny at fy nhad, a’r llanc heb fod gyda mi? rhag i mi weled y gofid a gaiff fy nhad.