Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 40  Beibl William Morgan

40 A Darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft. 2 A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd: 3 Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym. 4 A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5 A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy. 6 A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist. 7 Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw? 8 A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi. 9 A’r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen; 10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. 11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo. 12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc. 13 O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo. 14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: 15 Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar. 16 Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen. 17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. 18 A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. 19 O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.

20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd ymysg ei weision. 21 Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo. 22 A’r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy. 23 Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.

Next
Genesis 39
Genesis 41
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences