Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 39  Beibl William Morgan

39 A Joseff a ddygwyd i waered i’r Aifft: a Potiffar yr Eifftwr, tywysog Pharo a’i ddistain, a’i prynodd ef o law yr Ismaeliaid, y rhai a’i dygasant ef i waered yno. 2 Ac yr oedd yr Arglwydd gyda Joseff, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: ac yr oedd efe yn nhŷ ei feistr yr Eifftiad. 3 A’i feistr a welodd fod yr Arglwydd gydag ef, a bod yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnelai efe. 4 A Joseff a gafodd ffafr yn ei olwg ef, ac a’i gwasanaethodd ef: yntau a’i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a roddes yr hyn oll oedd eiddo dan ei law ef. 5 Ac er pan wnaethai efe ef yn olygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll oedd eiddo, bu i’r Arglwydd fendithio tŷ’r Eifftiad, er mwyn Joseff: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef, yn y tŷ, ac yn y maes. 6 Ac efe a adawodd yr hyn oll oedd ganddo dan law Joseff; ac ni wyddai oddi wrth ddim a’r a oedd gydag ef, oddieithr y bwyd yr oedd efe yn ei fwyta: Joseff hefyd oedd deg o bryd, a glân yr olwg.

7 A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi. 8 Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i. 9 Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw! 10 A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi. 11 A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ. 12 Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan. 13 A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan; 14 Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel; 15 A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan. 16 A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref. 17 A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo; 18 Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan. 19 A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef. 20 A meistr Joseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy.

21 Ond yr Arglwydd oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy. 22 A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur. 23 Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr Arglwydd gydag ef; a’r hyn a wnâi efe, yr Arglwydd a’i llwyddai.

Next
Genesis 38
Genesis 40
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences