Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 38  Beibl William Morgan

38 Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Jwda fyned i waered oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, a’i enw Hira. 2 Ac yno y canfu Jwda ferch gŵr o Ganaan, a’i enw ef oedd Sua; ac a’i cymerodd hi, ac a aeth ati hi. 3 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab; ac efe a alwodd ei enw ef Er. 4 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Onan. 5 A thrachefn hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Sela. Ac yn Chesib yr oedd efe pan esgorodd hi ar hwn. 6 A Jwda a gymerth wraig i Er ei gyntaf‐anedig, a’i henw Tamar. 7 Ac yr oedd Er, cyntaf‐anedig Jwda, yn ddrygionus yng ngolwg yr Arglwydd; a’r Arglwydd a’i lladdodd ef. 8 A Jwda a ddywedodd wrth Onan, Dos at wraig dy frawd, a phrioda hi, a chyfod had i’th frawd. 9 Ac Onan a wybu nad iddo ei hun y byddai’r had: a phan elai efe at wraig ei frawd, yna y collai efe ei had ar y llawr, rhag rhoddi ohono had i’w frawd. 10 A drygionus oedd yr hyn a wnaethai efe yng ngolwg yr Arglwydd: am hynny efe a’i lladdodd yntau. 11 Yna Jwda a ddywedodd wrth Tamar ei waudd, Trig yn weddw yn nhŷ dy dad, hyd oni chynyddo fy mab Sela: (oblegid efe a ddywedodd, Rhag ei farw yntau fel ei frodyr.) A Thamar a aeth, ac a drigodd yn nhŷ ei thad.

12 Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua, gwraig Jwda: a Jwda a gymerth gysur, ac a aeth i fyny i Timnath, at gneifwyr ei ddefaid, efe a’i gyfaill Hira yr Adulamiad. 13 Mynegwyd hefyd i Tamar, gan ddywedyd, Wele dy chwegrwn yn myned i fyny i Timnath, i gneifio ei ddefaid. 14 Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a’i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef. 15 A Jwda a’i canfu hi, ac a dybiodd mai putain ydoedd hi; oblegid gorchuddio ohoni ei hwyneb. 16 Ac efe a drodd ati hi i’r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf? 17 Yntau a ddywedodd, Mi a hebryngaf fyn gafr o blith y praidd. Hithau a ddywedodd, A roddi di wystl hyd oni hebryngech? 18 Yntau a ddywedodd, Pa wystl a roddaf i ti? Hithau a ddywedodd, Dy sêl, a’th freichledau, a’th ffon sydd yn dy law. Ac efe a’u rhoddes iddi, ac a aeth ati; a hi a feichiogodd ohono ef. 19 Yna y cyfododd hi, ac a aeth ymaith, ac a ddiosgodd ei gorchudd oddi amdani, ac a wisgodd ddillad ei gweddwdod. 20 A Jwda a hebryngodd fyn gafr yn llaw yr Adulamiad ei gyfaill, i gymryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd hwnnw hi. 21 Ac efe a ymofynnodd â gwŷr y fro honno, gan ddywedyd, Pa le y mae y butain honno a ydoedd yn Enaim wrth y ffordd? A hwythau a ddywedasant, Nid oedd yma un butain. 22 Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain. 23 A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.

24 Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Jwda, gan ddywedyd, Tamar dy waudd di a buteiniodd; ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb. A dywedodd Jwda, Dygwch hi allan, a llosger hi. 25 Yna hi, pan ddygwyd hi allan, a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd, O’r gŵr biau’r rhai hyn yr ydwyf fi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, Adnebydd, atolwg, eiddo pwy yw y sêl, a’r breichledau, a’r ffon yma. 26 A Jwda a adnabu y pethau hynny, ac a ddywedodd, Cyfiawnach yw hi na myfi; oherwydd na roddais hi i’m mab Sela: ac ni bu iddo ef a wnaeth â hi mwy.

27 Ac yn amser ei hesgoredigaeth hi, wele efeilliaid yn ei chroth hi. 28 Bu hefyd pan esgorodd hi, i un roddi allan ei law: a’r fydwraig a gymerth ac a rwymodd am ei law ef edau goch, gan ddywedyd, Hwn a ddaeth yn gyntaf allan. 29 A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele, ei frawd ef a ddaeth allan: a hithau a ddywedodd, Pa fodd y torraist allan? bid y toriad hwn arnat ti; am hynny y galwyd ei enw ef Phares. 30 Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn yr oedd yr edau goch am ei law: a galwyd ei enw ef Sera.

Next
Genesis 37
Genesis 39
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences