Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 37  Beibl William Morgan

37 A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad, yng ngwlad Canaan. 2 Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd: a’r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad. 3 Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef. 4 A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.

5 A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. 6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. 7 Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. 8 A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.

9 Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi. 10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti? 11 A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

12 A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem. 13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi. 14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15 A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? 16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio? 17 A’r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan. 18 Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef. 19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod. 20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. 21 A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef. 22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.

23 A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef. 24 A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo. 25 A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aifft, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr. 26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef? 27 Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gytunasant. 28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew, ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft.

29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad; 30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi? 31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed. 32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e. 33 Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff. 34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer. 35 A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd amdano ef. 36 A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a’r distain.

Next
Genesis 36
Genesis 38
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences