Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 29  Beibl William Morgan

29 A Jacob a gymerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain. 2 Ac efe a edrychodd, ac wele bydew yn y maes, ac wele dair diadell o ddefaid yn gorwedd wrtho; oherwydd o’r pydew hwnnw y dyfrhaent y diadelloedd: a charreg fawr oedd ar enau’r pydew. 3 Ac yno y cesglid yr holl ddiadelloedd: a hwy a dreiglent y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaent y praidd; yna y rhoddent y garreg drachefn ar enau’r pydew yn ei lle. 4 A dywedodd Jacob wrthynt, Fy mrodyr, o ba le yr ydych chwi? A hwy a ddywedasant, O Haran yr ydym ni. 5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A adwaenoch chwi Laban fab Nachor? A hwy a ddywedasant, Adwaenom. 6 Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, A oes llwyddiant iddo ef? A hwy a ddywedasant, Oes, llwyddiant: ac wele Rahel ei ferch ef yn dyfod gyda’r defaid. 7 Yna y dywedodd efe, Wele eto y dydd yn gynnar, nid yw bryd casglu’r anifeiliaid dyfrhewch y praidd, ac ewch, a bugeiliwch. 8 A hwy a ddywedasant, Ni allwn ni, hyd oni chasgler yr holl ddiadelloedd, a threiglo ohonynt y garreg oddi ar wyneb y pydew; yna y dyfrhawn y praidd.

9 Tra yr ydoedd efe eto yn llefaru wrthynt, daeth Rahel hefyd gyda’r praidd oedd eiddo ei thad; oblegid hi oedd yn bugeilio. 10 A phan welodd Jacob Rahel ferch Laban brawd ei fam, a phraidd Laban brawd ei fam; yna y nesaodd Jacob, ac a dreiglodd y garreg oddi ar enau’r pydew, ac a ddyfrhaodd braidd Laban brawd ei fam. 11 A Jacob a gusanodd Rahel, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 12 A mynegodd Jacob i Rahel, mai brawd ei thad oedd efe, ac mai mab Rebeca oedd efe: hithau a redodd, ac a fynegodd i’w thad. 13 A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn. 14 A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddiau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gydag ef fis o ddyddiau.

15 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Ai oherwydd mai fy mrawd wyt ti, y’m gwasanaethi yn rhad? mynega i mi beth fydd dy gyflog? 16 Ac i Laban yr oedd dwy o ferched: enw yr hynaf oedd Lea, ac enw yr ieuangaf Rahel. 17 A llygaid Lea oedd weiniaid; ond Rahel oedd deg ei phryd, a glandeg yr olwg. 18 A Jacob a hoffodd Rahel; ac a ddywedodd, Mi a’th wasanaethaf di saith mlynedd am Rahel dy ferch ieuangaf. 19 A Laban a ddywedodd, Gwell yw ei rhoddi hi i ti, na’i rhoddi i ŵr arall: aros gyda mi. 20 Felly Jacob a wasanaethodd am Rahel saith mlynedd: ac yr oeddynt yn ei olwg ef fel ychydig ddyddiau, am fod yn hoff ganddo efe hi.

21 A dywedodd Jacob wrth Laban, Moes i mi fy ngwraig, (canys cyflawnwyd fy nyddiau,) fel yr elwyf ati hi. 22 A Laban a gasglodd holl ddynion y fan honno, ac a wnaeth wledd. 23 Ond bu yn yr hwyr, iddo gymryd Lea ei ferch, a’i dwyn hi ato ef; ac yntau a aeth ati hi. 24 A Laban a roddodd iddi Silpa ei forwyn, yn forwyn i Lea ei ferch. 25 A bu, y bore, wele Lea oedd hi: yna y dywedodd efe wrth Laban, Paham y gwnaethost hyn i mi? onid am Rahel y’th wasanaethais? a phaham y’m twyllaist? 26 A dywedodd Laban, Ni wneir felly yn ein gwlad ni, gan roddi yr ieuangaf o flaen yr hynaf. 27 Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyda mi eto saith mlynedd eraill. 28 A Jacob a wnaeth felly, ac a gyflawnodd ei hwythnos hi: ac efe a roddodd Rahel ei ferch yn wraig iddo. 29 Laban hefyd a roddodd i Rahel ei ferch, Bilha ei forwyn, yn forwyn iddi hi. 30 Ac efe a aeth hefyd at Rahel, ac a hoffodd Rahel yn fwy na Lea, ac a wasanaethodd gydag ef eto saith mlynedd eraill.

31 A phan welodd yr Arglwydd mai cas oedd Lea, yna efe a agorodd ei chroth hi: a Rahel oedd amhlantadwy. 32 A Lea a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Reuben: oherwydd hi a ddywedodd, Diau edrych o’r Arglwydd ar fy nghystudd; canys yn awr fy ngŵr a’m hoffa i. 33 A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Am glywed o’r Arglwydd mai cas ydwyf fi; am hynny y rhoddodd efe i mi hwn hefyd: a hi a alwodd ei enw ef Simeon. 34 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Fy ngŵr weithian a lŷn yn awr wrthyf fi, canys plentais iddo dri mab: am hynny y galwyd ei enw ef Lefi. 35 A hi a feichiogodd drachefn, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Weithian y moliannaf yr Arglwydd: am hynny y galwodd ei enw ef Jwda. A hi a beidiodd â phlanta.

Next
Genesis 28
Genesis 30
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences