Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 22  Beibl William Morgan

22 Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 2 Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.

3 Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho. 4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. 5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. 6 Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. 7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm? 8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: 9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. 10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; 11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. 13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.

15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; 16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: 17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; 18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. 19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.

20 Darfu hefyd, wedi’r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd; 21 Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram, 22 A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel. 23 A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham. 24 Ei ordderchwraig hefyd, a’i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.

Next
Genesis 21
Genesis 23
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences