Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Genesis 1  Beibl William Morgan

1 Yn y dechreuad y creodd Duw y nefoedd a’r ddaear. 2 A’r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder, ac Ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. 3 A Duw a ddywedodd, Bydded goleuni, a goleuni a fu. 4 A Duw a welodd y goleuni, mai da oedd: a Duw a wahanodd rhwng y goleuni a’r tywyllwch. 5 A Duw a alwodd y goleuni yn Ddydd, a’r tywyllwch a alwodd efe yn Nos: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y dydd cyntaf.

6 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded ffurfafen yng nghanol y dyfroedd, a bydded hi yn gwahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd. 7 A Duw a wnaeth y ffurfafen, ac a wahanodd rhwng y dyfroedd oddi tan y ffurfafen, a’r dyfroedd oddi ar y ffurfafen: ac felly y bu. 8 A’r ffurfafen a alwodd Duw yn Nefoedd: a’r hwyr a fu, a’r bore a fu, yr ail ddydd.

9 Duw hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. 10 A’r sychdir a alwodd Duw yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a Duw a welodd mai da oedd. 11 A Duw a ddywedodd, Egined y ddaear egin, sef llysiau yn hadu had, a phrennau ffrwythlon yn dwyn ffrwyth, wrth eu rhywogaeth, y rhai y mae eu had ynddynt ar y ddaear: ac felly y bu. 12 A’r ddaear a ddug egin, sef llysiau yn hadu had wrth eu rhywogaeth, a phrennau yn dwyn ffrwyth, y rhai y mae eu had ynddynt wrth eu rhywogaeth: a Duw a welodd mai da oedd. 13 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y trydydd dydd.

14 Duw hefyd a ddywedodd, Bydded goleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i wahanu rhwng y dydd a’r nos; a byddant yn arwyddion, ac yn dymhorau, ac yn ddyddiau, a blynyddoedd. 15 A byddant yn oleuadau yn ffurfafen y nefoedd, i oleuo ar y ddaear: ac felly y bu. 16 A Duw a wnaeth ddau oleuad mawrion; y goleuad mwyaf i lywodraethu’r dydd, a’r goleuad lleiaf i lywodraethu’r nos: a’r sêr hefyd a wnaeth efe. 17 Ac yn ffurfafen y nefoedd y rhoddes Duw hwynt, i oleuo ar y ddaear, 18 Ac i lywodraethu’r dydd a’r nos, ac i wahanu rhwng y goleuni a’r tywyllwch: a gwelodd Duw mai da oedd. 19 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pedwerydd dydd.

20 Duw hefyd a ddywedodd, Heigied y dyfroedd ymlusgiaid byw, ac eheded ehediaid uwch y ddaear, yn wyneb ffurfafen y nefoedd. 21 A Duw a greodd y morfeirch mawrion, a phob ymlusgiad byw, y rhai a heigiodd y dyfroedd yn eu rhywogaeth, a phob ehediad asgellog yn ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd. 22 A Duw a’u bendigodd hwynt, gan ddywedyd, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y dyfroedd yn y moroedd, a lluosoged yr ehediaid ar y ddaear, 23 A’r hwyr a fu, a’r bore a fu, y pumed dydd.

24 Duw hefyd a ddywedodd, Dyged y ddaear bob peth byw wrth ei rywogaeth, yr anifail, a’r ymlusgiad, a bwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth: ac felly y bu. 25 A Duw a wnaeth fwystfil y ddaear wrth ei rywogaeth, a’r anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad y ddaear wrth ei rywogaeth: a gwelodd Duw mai da oedd.

26 Duw hefyd a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain: ac arglwyddiaethant ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar yr anifail, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear. 27 Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei hun, ar ddelw Duw y creodd efe ef: yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt. 28 Duw hefyd a’u bendigodd hwynt, a Duw a ddywedodd wrthynt, Ffrwythwch, ac amlhewch, a llenwch y ddaear, a darostyngwch hi; ac arglwyddiaethwch ar bysg y môr, ac ar ehediad y nefoedd, ac ar bob peth byw a ymsymudo ar y ddaear.

29 A Duw a ddywedodd, Wele, mi a roddais i chwi bob llysieuyn yn hadu had, yr hwn sydd ar wyneb yr holl ddaear, a phob pren yr hwn y mae ynddo ffrwyth pren yn hadu had, i fod yn fwyd i chwi. 30 Hefyd i bob bwystfil y ddaear, ac i bob ehediad y nefoedd, ac i bob peth a ymsymudo ar y ddaear, yr hwn y mae einioes ynddo, y bydd pob llysieuyn gwyrdd yn fwyd: ac felly y bu. 31 A gwelodd Duw yr hyn oll a wnaethai, ac wele da iawn ydoedd: felly yr hwyr a fu, a’r bore a fu, y chweched dydd.

Genesis 2
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences