Add parallel Print Page Options

43 A’r newyn oedd drwm yn y wlad. A bu, wedi iddynt fwyta yr ŷd a ddygasent o’r Aifft, ddywedyd o’u tad wrthynt hwy, Ewch eilwaith, prynwch i ni ychydig luniaeth. A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi. Os anfoni ein brawd gyda ni, ni a awn i waered, ac a brynwn i ti luniaeth. Ond os ti nid anfoni, nid awn i waered; oblegid y gŵr a ddywedodd wrthym ni, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi. Ac Israel a ddywedodd, Paham y drygasoch fi, gan fynegi i’r gŵr fod i chwi eto frawd? Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered? Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a’n plant hefyd. Myfi a fechnïaf amdano ef; o’m llaw i y gofynni ef: onis dygaf ef atat ti, a’i osod ef ger dy fron di, yna y byddaf euog o fai i’th erbyn byth. 10 Canys, pe na buasem hwyrfrydig, daethem eilchwyl yma ddwy waith bellach. 11 Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau’r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i’r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau. 12 Cymerwch hefyd ddau cymaint o arian gyda chwi; a dygwch eilwaith gyda chwi yr arian a roddwyd drachefn yng ngenau eich sachau: ond odid amryfusedd fu hynny. 13 Hefyd cymerwch eich brawd, a chyfodwch, ewch eilwaith at y gŵr. 14 A Duw Hollalluog a roddo i chwi drugaredd gerbron y gŵr, fel y gollyngo i chwi eich brawd arall, a Benjamin: minnau fel y’m diblantwyd, a ddiblentir.

15 A’r gwŷr a gymerasant yr anrheg honno, a chymerasant arian yn ddwbl yn eu llaw, a Benjamin hefyd; a chyfodasant, ac a aethant i waered i’r Aifft, a safasant gerbron Joseff. 16 A Joseff a ganfu Benjamin gyda hwynt; ac a ddywedodd wrth yr hwn oedd olygwr ar ei dŷ, Dwg y gwŷr hyn i’r tŷ, a lladd laddfa, ac arlwya: oblegid y gwŷr a gânt fwyta gyda myfi ar hanner dydd. 17 A’r gŵr a wnaeth fel y dywedodd Joseff: a’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff. 18 A’r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i’n cymryd ni yn gaethion, a’n hasynnod hefyd. 19 A hwy a nesasant at y gŵr oedd olygwr ar dŷ Joseff, ac a lefarasant wrtho, wrth ddrws y tŷ, 20 Ac a ddywedasant, Fy arglwydd, gan ddisgyn y disgynasom yr amser cyntaf i brynu lluniaeth. 21 A bu, pan ddaethom i’r llety, ac agoryd ein sachau, yna wele arian pob un yng ngenau ei sach; ein harian ni, meddaf, yn ei bwys: ond ni a’i dygasom eilwaith yn ein llaw. 22 Dygasom hefyd arian arall i waered yn ein llaw, i brynu lluniaeth: nis gwyddom pwy a osododd ein harian ni yn ein ffetanau. 23 Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy. 24 A’r gŵr a ddug y dynion i dŷ Joseff, ac a roddes ddwfr, a hwy a olchasant eu traed; ac efe a roddes ebran i’w hasynnod hwynt. 25 Hwythau a baratoesant eu hanrheg erbyn dyfod Joseff ar hanner dydd: oblegid clywsent mai yno y bwytaent fara.

26 Pan ddaeth Joseff i’r tŷ, hwythau a ddygasant iddo ef yr anrheg oedd ganddynt i’r tŷ, ac a ymgrymasant iddo ef hyd lawr. 27 Yntau a ofynnodd iddynt am eu hiechyd, ac a ddywedodd, Ai iach yr hen ŵr eich tad chwi, yr hwn y soniasoch amdano? ai byw efe eto? 28 Hwythau a ddywedasant, Iach yw dy was, ein tad ni: byw yw efe eto. Yna yr ymgrymasant, ac yr ymostyngasant. 29 Yntau a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ei frawd Benjamin, mab ei fam ei hun; ac a ddywedodd, Ai dyma eich brawd ieuangaf chwi, am yr hwn y dywedasoch wrthyf fi? Yna y dywedodd, Duw a roddo ras i ti, fy mab. 30 A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno. 31 Gwedi hynny efe a olchodd ei wyneb, ac a ddaeth allan, ac a ymataliodd, ac a ddywedodd, Gosodwch fara. 32 Hwythau a osodasant fwyd iddo ef wrtho ei hun, ac iddynt hwy wrthynt eu hun, ac i’r Eifftiaid y rhai oedd yn bwyta gydag ef wrthynt eu hunain: oblegid ni allai’r Eifftiaid fwyta bara gyda’r Hebreaid; oherwydd ffieidd‐dra oedd hynny gan yr Eifftiaid. 33 Yna yr eisteddasant ger ei fron ef, y cyntaf‐anedig yn ôl ei gyntafenedigaeth, a’r ieuangaf yn ôl ei ieuenctid: a rhyfeddodd y gwŷr bob un wrth ei gilydd. 34 Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.

The Second Journey to Egypt

43 Now the famine was still severe in the land.(A) So when they had eaten all the grain they had brought from Egypt,(B) their father said to them, “Go back and buy us a little more food.”(C)

But Judah(D) said to him, “The man warned us solemnly, ‘You will not see my face again unless your brother is with you.’(E) If you will send our brother along with us, we will go down and buy food for you.(F) But if you will not send him, we will not go down, because the man said to us, ‘You will not see my face again unless your brother is with you.(G)’”

Israel(H) asked, “Why did you bring this trouble(I) on me by telling the man you had another brother?”

They replied, “The man questioned us closely about ourselves and our family. ‘Is your father still living?’(J) he asked us. ‘Do you have another brother?’(K) We simply answered his questions. How were we to know he would say, ‘Bring your brother down here’?”(L)

Then Judah(M) said to Israel(N) his father, “Send the boy along with me and we will go at once, so that we and you and our children may live and not die.(O) I myself will guarantee his safety; you can hold me personally responsible for him.(P) If I do not bring him back to you and set him here before you, I will bear the blame(Q) before you all my life.(R) 10 As it is, if we had not delayed,(S) we could have gone and returned twice.”

11 Then their father Israel(T) said to them, “If it must be, then do this: Put some of the best products(U) of the land in your bags and take them down to the man as a gift(V)—a little balm(W) and a little honey, some spices(X) and myrrh,(Y) some pistachio nuts and almonds. 12 Take double the amount(Z) of silver with you, for you must return the silver that was put back into the mouths of your sacks.(AA) Perhaps it was a mistake. 13 Take your brother also and go back to the man at once.(AB) 14 And may God Almighty[a](AC) grant you mercy(AD) before the man so that he will let your other brother and Benjamin come back with you.(AE) As for me, if I am bereaved, I am bereaved.”(AF)

15 So the men took the gifts and double the amount of silver,(AG) and Benjamin also. They hurried(AH) down to Egypt and presented themselves(AI) to Joseph. 16 When Joseph saw Benjamin(AJ) with them, he said to the steward of his house,(AK) “Take these men to my house, slaughter an animal and prepare a meal;(AL) they are to eat with me at noon.”

17 The man did as Joseph told him and took the men to Joseph’s house.(AM) 18 Now the men were frightened(AN) when they were taken to his house.(AO) They thought, “We were brought here because of the silver that was put back into our sacks(AP) the first time. He wants to attack us(AQ) and overpower us and seize us as slaves(AR) and take our donkeys.(AS)

19 So they went up to Joseph’s steward(AT) and spoke to him at the entrance to the house. 20 “We beg your pardon, our lord,” they said, “we came down here the first time to buy food.(AU) 21 But at the place where we stopped for the night we opened our sacks and each of us found his silver—the exact weight—in the mouth of his sack. So we have brought it back with us.(AV) 22 We have also brought additional silver with us to buy food. We don’t know who put our silver in our sacks.”

23 “It’s all right,” he said. “Don’t be afraid. Your God, the God of your father,(AW) has given you treasure in your sacks;(AX) I received your silver.” Then he brought Simeon out to them.(AY)

24 The steward took the men into Joseph’s house,(AZ) gave them water to wash their feet(BA) and provided fodder for their donkeys. 25 They prepared their gifts(BB) for Joseph’s arrival at noon,(BC) because they had heard that they were to eat there.

26 When Joseph came home,(BD) they presented to him the gifts(BE) they had brought into the house, and they bowed down before him to the ground.(BF) 27 He asked them how they were, and then he said, “How is your aged father(BG) you told me about? Is he still living?”(BH)

28 They replied, “Your servant our father(BI) is still alive and well.” And they bowed down,(BJ) prostrating themselves before him.(BK)

29 As he looked about and saw his brother Benjamin, his own mother’s son,(BL) he asked, “Is this your youngest brother, the one you told me about?”(BM) And he said, “God be gracious to you,(BN) my son.” 30 Deeply moved(BO) at the sight of his brother, Joseph hurried out and looked for a place to weep. He went into his private room and wept(BP) there.

31 After he had washed his face, he came out and, controlling himself,(BQ) said, “Serve the food.”(BR)

32 They served him by himself, the brothers by themselves, and the Egyptians who ate with him by themselves, because Egyptians could not eat with Hebrews,(BS) for that is detestable to Egyptians.(BT) 33 The men had been seated before him in the order of their ages, from the firstborn(BU) to the youngest;(BV) and they looked at each other in astonishment. 34 When portions were served to them from Joseph’s table, Benjamin’s portion was five times as much as anyone else’s.(BW) So they feasted(BX) and drank freely with him.

Footnotes

  1. Genesis 43:14 Hebrew El-Shaddai