Add parallel Print Page Options

15 Wedi ’r pethau hyn, y daeth gair yr Arglwydd at Abram mewn gweledigaeth, gan ddywedyd, Nac ofna, Abram; myfi ydyw dy darian, dy wobr mawr iawn. A dywedodd Abram, Arglwydd Dduw, beth a roddi di i mi? gan fy mod yn myned yn ddi‐blant, a goruchwyliwr fy nhŷ yw Eleasar yma o Damascus. Abram hefyd a ddywedodd, Wele, ni roddaist i mi had; ac wele, fy nghaethwas fydd fy etifedd. Ac wele air yr Arglwydd ato ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd. Ac efe a’i dug ef allan, ac a ddywedodd, Golyga yn awr y nefoedd, a rhif y sêr, o gelli eu cyfrif hwynt: dywedodd hefyd wrtho, Felly y bydd dy had di. Yntau a gredodd yn yr Arglwydd, ac efe a’i cyfrifodd iddo yn gyfiawnder. Ac efe a ddywedodd wrtho, Myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’th ddygais di allan o Ur y Caldeaid, i roddi i ti y wlad hon i’w hetifeddu. Yntau a ddywedodd, Arglwydd Dduw, trwy ba beth y caf wybod yr etifeddaf hi? Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer i mi anner dair blwydd, a gafr dair blwydd, a hwrdd tair blwydd, a thurtur, a chyw colomen. 10 Ac efe a gymerth iddo y rhai hyn oll, ac a’u holltodd hwynt ar hyd eu canol, ac a roddodd bob rhan ar gyfer ei gilydd; ond ni holltodd efe yr adar. 11 A phan ddisgynnai yr adar ar y celaneddau, yna Abram a’u tarfai hwynt. 12 A phan oedd yr haul ar fachludo, y syrthiodd trymgwsg ar Abram: ac wele ddychryn, a thywyllni mawr, yn syrthio arno ef. 13 Ac efe a ddywedodd wrth Abram, Gan wybod gwybydd, y bydd dy had di yn ddieithr mewn gwlad nid yw eiddynt, ac a’u gwasanaethant, a hwythau a’u cystuddiant bedwar can mlynedd. 14 A’r genhedlaeth hefyd yr hon a wasanaethant, a farnaf fi: ac wedi hynny y deuant allan â chyfoeth mawr. 15 A thi a ei at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg. 16 Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma; canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid. 17 A bu, pan fachludodd yr haul, a hi yn dywyll, wele ffwrn yn mygu, a lamp danllyd yn tramwyo rhwng y darnau hynny. 18 Yn y dydd hwnnw y gwnaeth yr Arglwydd gyfamod ag Abram, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddais y wlad hon, o afon yr Aifft hyd yr afon fawr, afon Ewffrates: 19 Y Ceneaid, a’r Cenesiaid, a’r Cadmoniaid. 20 Yr Hethiaid hefyd, a’r Pheresiaid, a’r Reffaimiaid, 21 Yr Amoriaid hefyd, a’r Canaaneaid, a’r Girgasiaid, a’r Jebusiaid.