Add parallel Print Page Options

A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl; Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad. Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd: Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf; Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad. Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist. Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau. Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu? 10 Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd. 11 Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer. 12 Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam. 13 A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf. 14 A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu. 15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi. 16 A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir? 17 Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy. 18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi. 19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch; 20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch. 21 Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf? 22 Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd. 23 Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid. 24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: 25 Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant. 26 Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. 27 Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr. 28 A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid. 29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd. 30 Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. 31 Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.