Add parallel Print Page Options

Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni. Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch. 10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost. 11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda. 12 Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr. 13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed. 14 Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd. 15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom! 17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd. 20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau? 21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 22 Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.