Add parallel Print Page Options

Dyma yn awr enwau meibion Israel, y rhai a ddaethant i’r Aifft: gyda Jacob y daethant, bob un a’i deulu. Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, Sabulon, a Benjamin, Dan, a Nafftali, Gad, ac Aser. A’r holl eneidiau a ddaethant allan o gorff Jacob oedd ddeng enaid a thrigain: a Joseff oedd yn yr Aifft. A Joseff a fu farw, a’i holl frodyr, a’r holl genhedlaeth honno.

A phlant Israel a hiliasant ac a gynyddasant, amlhasant hefyd, a chryfhasant yn ddirfawr odiaeth; a’r wlad a lanwyd ohonynt. Yna y cyfododd brenin newydd yn yr Aifft, yr hwn nid adnabuasai mo Joseff. Ac efe a ddywedodd wrth ei bobl, Wele bobl plant Israel yn amlach, ac yn gryfach, na nyni. 10 Deuwch, gwnawn yn gall â hwynt; rhag amlhau ohonynt, a bod, pan ddigwyddo rhyfel, ymgysylltu ohonynt â’n caseion, a rhyfela i’n herbyn, a myned i fyny o’r wlad. 11 Am hynny y gosodasant arnynt feistriaid gwaith, i’w gorthrymu â’u beichiau; a hwy a adeiladasant i Pharo ddinasoedd trysorau, sef Pithom a Raamses. 12 Ond fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent: a drwg oedd ganddynt oherwydd plant Israel. 13 A’r Eifftiaid a wnaeth i blant Israel wasanaethu yn galed. 14 A gwnaethant eu heinioes hwynt yn chwerw trwy’r gwasanaeth caled, mewn clai, ac mewn priddfaen, ac ym mhob gwasanaeth yn y maes; a’u holl wasanaeth y gwnaent iddynt wasanaethu ynddo oedd galed. 15 A brenin yr Aifft a lefarodd wrth fydwragedd yr Hebreësau; a ba rai enw un oedd Sipra, ac enw yr ail Pua: 16 Ac efe a ddywedodd, Pan fyddoch fydwragedd i’r Hebreësau, a gweled ohonoch hwynt yn esgor; os mab fydd, lleddwch ef; ond os merch, bydded fyw. 17 Er hynny y bydwragedd a ofnasant Dduw, ac ni wnaethant yn ôl yr hyn a ddywedasai brenin yr Aifft wrthynt; eithr cadwasant y bechgyn yn fyw. 18 Am hynny brenin yr Aifft a alwodd am y bydwragedd, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnaethoch y peth hyn, ac y cadwasoch y bechgyn yn fyw? 19 A’r bydwragedd a ddywedasant wrth Pharo, Am nad yw yr Hebreësau fel yr Eifftesau; oblegid y maent hwy yn fywiog ac yn esgor cyn dyfod bydwraig atynt. 20 Am hynny y bu Duw dda wrth y bydwragedd: a’r bobl a amlhaodd, ac a aeth yn gryf iawn. 21 Ac oherwydd i’r bydwragedd ofni Duw, yntau a wnaeth dai iddynt hwythau. 22 A Pharo a orchmynnodd i’w holl bobl, gan ddywedyd, Pob mab a’r a enir, bwriwch ef i’r afon; ond cedwch yn fyw bob merch.