Add parallel Print Page Options

26 Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt. Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni. Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd. A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad. Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd. Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.

A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei. Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg. A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len. 10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad. 11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma’r babell‐len, fel y byddo yn un. 12 A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl; 13 Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu acw, i’w orchuddio. 14 A gwna do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

15 A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll. 16 Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen. 17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl. 18 A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau. 19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, ugain ystyllen, 21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen. 23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl, yn y ddau ystlys. 24 A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant. 25 A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 27 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin. 28 A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr. 29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur. 30 A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31 A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi. 32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33 A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf. 34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf. 35 A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du’r gogledd. 36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith. 37 A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.